Hanes a Llenyddiaeth Cymru


Q550

Hanes a Llenyddiaeth Cymru

Mae hwn yn gwrs anrhydedd sengl amlddisgyblaethol unigryw ar arloesol sy’n cael ei ddysgu ar y cyd gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran y Gymraeg. Dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y gellir ei astudio. Mae gan Cymru draddodiad llenyddol cyfoethog sy’n ymestyn yn ôl i ganol y mileniwm cyntaf, ac mae llenyddiaeth wedi chwarae rhan gyson a chanolog yn ei diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destun hanesyddol. Mae’n edrych ar y berthynas rhwng llenyddiaeth a hanes o sawl safbwynt wahanol. Cewch y cyfle i astudio testunau penodol mewn dyfnder yn ogystal â’r cyfle i werthfawrogi’r darlun hanesyddol ehangach. Byddwch yn ymchwilio i’r ffyrdd y gellir defnyddio’r testunau llenyddol eu hunain er mwyn deall y gorffennol.

Fel myfyriwr ar y cwrs Anrhydedd Sengl Llenyddiaeth a Hanes Cymru, byddwch yn rhannu eich amser yn gyfartal rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Gymraeg.

Mae’r ddau adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a thrydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.

Yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru cewch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau a gynigir. Dyma enghreifftiau o fodiwlau:

• Cymru a’r Tuduriaid 1530 – 1603
• Cymdeithas a Diwylliant Cymru 1660 – 1800
• Trosedd, Terfysg a Moesoldeb 1750 – 1850
• Hunaniaethau Cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain

Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir gan Adran y Gymraeg;

• Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif
• Pedair Cainc y Mabinogi
• Merched a Llenyddiaeth hed c.1500
• Rhyddiaeth a Drama 1900 – 1990
• Y Gogynfeirdd
• Beirniadu Llenyddiaeth

Hanes a Llenyddiaeth Cymru Traethawd Estynedig

Fel myfyriwr Anrhydedd Sengl byddwch yn gallu cymryd Pynciau Arbennig Hanes, a gallwch ysgrifennu traethawd hir y flwyddyn olaf yn y naill adran neu’r llall, gan ddibynnu ar eich dewis o bwnc a’ch diddordebau penodol.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol