Hanes
V101 - 3 blynedd
Blwyddyn 1
Diben blwyddyn gyntaf y cwrs Hanes yw cyflwyno problemau dadansoddi a dehongli hanes. Yn semester cyntaf Rhan 1 rydym yn cynnig modiwlau rhagarweiniol sy’n adlewyrchu amrywiaeth mawr o ran cyfnod a thema. Ymhlith y modiwlau a gynigir yn ystod eich blwyddyn gyntaf y mae Ewrop y barbariaid, y pla du, a Phrydain a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod y rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn dod atom wedi astudio rhywfaint o hanes yn yr ysgol, nid ydym yn rhagdybio gwybodaeth flaenorol o’r pwnc. I gwrdd ag anghenion pob myfyriwr newydd mewn Hanes, ac i hyrwyddo’r newid i astudio yn y brifysgol, rydym yn cynnig modiwl rhagarweiniol mewn cysyniadau a sgiliau hanesyddol. Mae hyn yn rhoi golwg ehangach i fyfyrwyr ar yr hanes y maent wedi ei astudio eisoes ac mae’n gyflwyniad delfrydol i fyfyrwyr nad ydynt wedi astudio Hanes i’w lefel A.
Blynyddoedd 2 a 3
Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn bydd modd ichi ddewis o blith nifer helaeth o fodiwlau. Bydd rhai o’r rhain yn fodiwlau arolwg, rhai’n fodiwlau sgiliau, ac eraill yn canolbwyntio ar y syniad o newid a datblygiad mewn cymdeithasau arbennig dros gyfnod go hir (e.e. gwleidyddiaeth dorfol yn Ewrop fodern 1789 – 1980). Bydd eraill yn canolbwyntio ar themâu arbennig (e.e. oes y croesgadau neu fyth y blitz).
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn dewis pwnc arbennig fel y gallwch astudio pwnc hanesyddol arbennig yn fanwl a defnyddio ffynonellau gwreiddiol helaeth, efallai. Ymhlith y pynciau arbennig y mae teyrnasiad Edward II, y Trydydd Reich, a Phrydain yn oes y Chwyldro Ffrengig. Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn defnyddio sgiliau’r hanesydd i ymchwilio ac ysgrifennu traethawd estynedig.
Mae dau gwrs craidd yn datblygu themâu a gyflwynwyd yn y flwyddyn gyntaf. Yn eich ail flwyddyn byddwch yn gwneud cwrs ar ddulliau hanesyddol: haneswyr ac ysgrifennu hanes. Bydd hyn yn astudio sut mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser. Yn semester olaf y drydedd flwyddyn bydd y modiwl problemau hanesyddol cyffredinol yn cynnig y cyfle ichi ystyried y materion hyn ymhellach a meddwl am eich astudiaeth eich hun o’r gorffennol.
Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno pwnc gyda’r Adran Hanes a Hanes gyda phwnc arall