Hanes Modern a Gwleidyddiaeth


VL1F - 3 blynedd

Hanes Modern a Gwleidyddiaeth

Mae’r cynllun gradd anrhydedd sengl mewn Hanes Modern a Gwleidyddiaeth yn canolbwyntio ar hanes a gwleidyddiaeth ddiweddar, gan astudio syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyddestun datblygiad hanesyddol. Mae’n cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn cwrs cyfannol sy’n cynnig cryn hyblygrwydd ichi wrth ddewis modiwlau. Rhennir y gwaith addysgu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, dwy adran a enillodd glod am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu priod feysydd. Mae’r adrannau hyn yn cynnwys arbenigwyr ar hanes a gwleidyddiaeth Ewrop, yr Unol Daleithiau, America Ladin ac Awstralasia.

Hanes Modern a Gwleidyddiaeth Blwyddyn 1

Fel myfyriwr ar y cynllun anrhydedd sengl Hanes Modern a Gwleidyddiaeth, byddwch yn rhannu eich amser yn gyfartal rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mi fydd disgwyl i chi gymryd cyflwyniad craidd i fodiwlau Hanes er mwyn hwyluso’r trawsnewid i astudiaethau israddedig gan ddarparu arweiniad i sgiliau ac agweddau hanesyddol allweddol.

Os yn wahanol mi fydd angen i chi ddewis eich modiwlau o’r dewis gwych sydd gan yr adran Hanes. Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir;

• The Rise and Fall of the Soviet Union
• Jews in the Modern World, 1750 to the present
• The Making of the American Nation, 1783 - 2000
• Power, Protest and society in Modern Wales, 1850 - 1997

Mae gweddill y modiwlau yn cael eu gymryd allan o’r amrywiaeth eang sydd gan yr Adran, gan gynnwys;

• Indroduction to the Third World in International Politics
• World Politics in the Age of the Two World Wars
• War, Staregy and Intelligence
• Revolution and Continuity in Political Philosophy

Hanes Modern a Gwleidyddiaeth Blwyddyn 2 a 3

Mae’r ddau adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a thrydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.

Mi fydd myfyrwyr Hanes Modern a Gwleidyddiaeth yn gwneud dewis o ystod o fodiwlau perthnasol, er enghraifft;

• Studying Cuban History through Film
• Images of Stalinism
• The Domestic Politics of US Foreign Policy
• The Holocaust
• Weimar Germany: The Making and Breaking of German Democracy

Mae gweddill y modiwlau yn cael eu gymryd allan o’r amrywiaeth eang sydd gan yr adran, gan gynnwys;

• European Politics
• Politics in Russia since 1953
• Warfare after Waterloo: Military History, 1815 - 1918
• Islam, Foreign Policy and the Developing World
• Terrorism, Culture and Identity

Hanes Modern a Gwleidyddiaeth Traethawd Estynedig

Fel myfyriwr anrhydedd sengl, cewch gymryd pwnc Hanes arbennig, a gallwch ysgrifennu traethawd hir y flwyddyn olaf gydag unrhyw adran, yn ôl eich diddordeb chi.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol