Hanes Modern a Chyfoes
V191 - 3 blynedd
Hanes Modern a Chyfoes
Mae’r cynllun gradd anrhydedd sengl hwn yn ymdrin â nifer o agweddau tuag at hanes modern a chyfoes (cyfnod sy’n ymestyn o’r Chwyldro Ffrengig hyd at y presennol). Mae’r pynciau a’r meysydd a astudir yn cynnwys Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwleidyddiaeth dorfol, Prydain a’r Rhyfel Byd Cyntaf, Almaen Weimar, hanes meddygaeth fodern, chwaraeon, hamdden a diwylliant poblogaidd a pholisi tramor America.
Bydd y cynllun gradd hwn yn apelio at fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y cyfnod ers y Chwyldro Ffrengig. Mae’n archwilio oes a nodweddir gan y ‘torfol’ – mewn gwleidyddiaeth, rhyfel a diwylliant. Mae’n darlunio gwrthgyferbyniad moderniaeth – yr arbrofion iwtopaidd a’u canlyniad hunllefus yn aml, y datganiadau am hawliau dynol a’r achosion o hil-laddiad a’r glanhau ethnig, yr addewid am resymeg, gwyddoniaeth a thechnoleg a gweithredoedd o hil-laddiad wedi ei gynllunio a’u gweithredu’n wyddonol ac effeithiol.
Hanes Modern a Chyfoes Blwyddyn 1
Mae angen i bob myfyrwyr cymryd cyflwyniad craidd i fodiwlau Hanes er mwyn hwyluso’r newid i fyfyrwyr israddedig. Er mwyn addasu eich gradd i’ch diddordebau bydd cyfle i chi ddewis pump modiwl allan o’r amrywiaeth o fodiwlau Hanes Modern a Chyfoes. Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir;
• Cradle to Grave? Welfare and Society in Modern Britain
• The Rise and Fall of the Soviet Union
• Jews in the Modern World, 1750 to the Present
• Post War British Society: From the Baby Bloomers to Blair
• The Making of the American Nation, 1783 - 2000
Hanes Modern a Chyfoes Blwyddyn 2 a 3
Mae’r adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a’r drydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.
Mi fydd myfyrwyr Hanes Modern a Chyfoes yn gwneud dewis o ystod o fodiwlau perthnasol, er enghraifft;
• Britain at War, 1939 - 1945
• Images of Stalinism
• Mass, Politics in Modern Europe, 1789 - 1945
• Sport, Leisure and Popular Culture in Britain since 1850
• Mass Media in 20th Century Britain
Bydd cyfle i chi ddewis modiwlau ychwanegol sydd yn cael eu gynnig gan yr adran, er enghraifft;
• Manners and Midemeanours: Polite Society in Eighteenth Century England
• Myth and History in the Viking Age
• The Making of Modern France, 1730 - 1914
• Early Modernity in Europe
Hanes Modern a Chyfoes Traethawd Estynedig
Mae’r gradd yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda thraethawd estynedig lle bydd cyfle i chi wneud gwaith ymchwil ar ardal o’ch dewis yn y maes. Dyma enghreifftiau o destunau traethodau estynedig blaenorol;
• The British Labour Party and the Nazi Seizure of Power, 1929 - 1933
• The Arab revolt and the Myth of Lawrence of Arabia
• How did the Church in Wales react to Great War?
• Nixon, Civil Rights and the Press