Hanes a Hanes Cymru
VVC2 - 3 blynedd
Hanes a Hanes Cymru Blwyddyn 1
Fel myfyriwr anrhydedd sengl Hanes a Hanes Cymru byddwch yn rhannu eich amser yn gyfartal rhwng astudio hanes Cymru a dewis arall o blith yr ystod eang o fodiwlau a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru.
Mi fydd disgwyl i chi gymryd cyflwyniad craidd i fodiwlau Hanes er mwyn hwyluso’r trawsnewid i astudiaethau israddedig gan ddarparu arweiniad i sgiliau ac agweddau hanesyddol allweddol. Gallwch hefyd astudio modiwlau rhagarweiniol ar Hanes Cymru, er enghraifft digwyddiadau allweddol yn hanes yng Nghymru . Yn wahanol, gall myfyrwyr ddewis eu modiwlau o’r amrywiaeth helaeth sydd ar gael ar lefel Anrhydedd yn yr adran Hanes Cymru, er enghraifft
• Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1250 – 1800
• Power, Protest and Society in Modern Wales 1850 – 1997
Mi fydd gweddill y modiwlau yn cael eu cymryd o’r rhestr helaeth o fodiwlau Hanes, er enghraifft;
• Soldiers, Saints and Serfs: England, 1042 – 1154
• The Making of the American Nation, 1783 – 2000
• Cradle to Grave? Welfare and Society in Modern Britain
• The Rise and Fall os the Soviet Union
Hanes a Hanes Cymru Blwyddyn 2 a 3
Mae’r adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a’r drydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.
Mi fydd myfyrwyr Hanes a Hanes Cymru yn dewis eu modiwlau o’r amrywiaeth helaeth sydd ar gael, er enghraifft,
• Cymru ers 1945
• Trosedd, Terfysg a Moesoldeb, 1750 – 1850
• Romantic Wales, 1740 – 1847
Mae gweddill y modiwlau yn cael eu cymryd allan o’r amrywiaeth eang sydd gan yr adran, gan gynnwys;
• War and Society
• Mass Politics in Modern Europe. 1789 – 1945
• Media and Society in 20th Century Britain
• British Society and the French Revolution
Yn ychwanegol, mi fydd angen i chi gymryd modiwl craidd er mwyn dangos sut mae’r ystyr, y dechneg a’r ffordd o ysgrifennu hanes wedi newid ar hyd yr amser.
Hanes a Hanes Cymru Traethawd Estynedig
Mae’r gradd yn gorffen gyda thraethawd estynedig lle bydd cyfle i chi wneud gwaith ymchwil ar bwnc o’ch dewis chi ym maes Hanes Cymru neu Hanes yn gyffredinol.
Mae Traethodau Estynedig diweddar yn cynnwys:
• The Cistercian Communities in Medieval Mid and South Wales
• The Effect of Industrialization on the Working Patterns and Social Cohesion of Merthyr Tydfil
• Cinema in a South Wales coalfield during 1920s
• How did the Second World War affect the Tywyn area?
Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno pwnc gyda’r Adran Hanes a Hanes gyda phwnc arall