Astudiaethau Gwybodaeth


Astudiaethau Hanesyddol ac Archifol - VP31 - 3 blynedd
Rheoli Gwybodaeth - P101 - 3 blynedd
Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth - P110 - 3 blynedd
Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (Dysgu O Bell) - P110D - 3-5 blynedd
Astudieathau Gwybodaeth gyda phynciau eraill

Mae gwybodaeth, a’r gwaith o’i rheoli, yn ganolog i’r gymdeithas fodern. Mae sefydliadau preifat a chyhoeddus, cenedlaethol a rhyngwladol, yn cydnabod bod gwybodaeth yn adnodd hanfodol a bod rheoli gwybodaeth yn allweddol i’w llwyddiant. Oherwydd hyn y mae Astudiaethau Gwybodaeth yn ymwneud â phob agwedd ar gynhyrchu, trefnu a throsglwyddo gwybodaeth. Mae ein rhaglenni yn manteisio ar arbenigedd staff o gyfadrannau eraill er mwyn creu cyfres o gynlluniau gradd na ellir eu cael yn unrhyw le arall ym Mhrydain. Mae gwaith yr Adran yn ymwneud â phob agwedd ar y diwydiant gwybodaeth – diwydiant sydd ar gynnydd, a diwydiant a gydnabyddir bellach yn rhan bwysig a sylweddol o’r economi Prydeinig. Mae cysylltiadau’r Adran â diwydiant a masnach yn adlewyrchu hyn, sy’n golygu bod astudio ar un o’r cynlluniau nid yn unig o werth academaidd, ond hefyd yn berthnasol yn ymarferol ac yn alwedigaethol. Mae ein cyrsiau yn cael eu hachredu'n broffesiynol gan Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (CILIP).

Mae gan yr Adran hefyd hanes nodedig. Yn yr Asesiad diwethaf ar Ansawdd y Dysgu, dyfarnwyd bod ein gwaith dysgu yn 'rhagorol'. Yn ddiweddar dathlodd yr adran ei phen blwydd yn ddeugain ac yn y cyfnod hwn rydym wedi cynorthwyo rhai o brif lyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol gwybodaeth y DU ac, yn wir, y byd. Ymhlith ein cynfyfyrwyr y mae dau lyfrgellydd cenedlaethol (Cymru a’r Alban), y person du cyntaf i’w benodi’n llyfrgellydd cenedlaethol yn Ne Affrica, a Chyfarwyddwr Swyddfa Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth y Cenhedloedd Unedig, i enwi ambell enghraifft yn unig.

Dysgu ac Asesu

Mae’r holl gyrsiau yn cynnwys cyfres o fodiwlau, rhai’n orfodol a rhai i’w dewis. Mae’r addysgu yn gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol, ac astudiaeth breifat dan gyfarwyddyd. Fe’ch asesir trwy gyfrwng arholiadau ysgrifenedig ffurfiol a gwaith cwrs. Yn ogystal â chynnig cyrsiau drwy ddulliau traddodiadol rydym hefyd ar flaen y gad gyda’n darpariaeth o gynlluniau gradd trwy ddysgu o bell. Am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni dysgu o bell gweler ein gwefan. Mae athroniaeth yr Adran o ganolbwyntio ar addysgu agored, hyblyg, myfyriwr-ganolog yn boblogaidd nid yn unig gan y myfyrwyr sy’n dysgu o bell, ond hefyd gyda’n myfyrwyr amser llawn ar y campws. Mae rhai o’r modiwlau amser llawn yn defnyddio deunydd dysgu agored, sy’n cynnwys adnoddau cynadledda electronig yr Adran, er mwyn rhoi profiad academaidd cyfoethog a blaengar i’n myfyrwyr. Mae’r myfyrwyr hefyd yn mynd ar leoliad gwaith am gyfnod o fis ar ddiwedd yr ail flwyddyn, sydd yn arwydd pellach o berthnasedd galwedigaethol eu hastudiaethau a’u rhagolygon am yrfa ar ddiwedd y cwrs.

Adnoddau

Mae’r adnoddau llyfrgell sydd gennym ar gyfer y myfyrwyr gyda’r gorau yn Ewrop; mae Llyfrgell Thomas Parry ar Gampws Llanbadarn yn un o’r prif lyfrgelloedd ym maes Astudiaethau Gwybodaeth. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio Llyfrgell Hugh Owen ar gampws Penglais, lle cedwir dros 700,000 o gyfrolau ac sy’n tanysgrifio i dros 3,500 o gyfnodolion cyfredol. Hefyd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ar drothwy campws Penglais yn un o bum llyfrgell hawlfraint Prydain, sy’n cadw dros 6,000,000 o gyfrolau. Yn ogystal ag adnoddau cyfrifiadurol y Brifysgol gall y myfyrwyr ddefnyddio ystafelloedd gweithfannau cyfrifiadurol yr Adran, sydd wedi eu lleoli mewn adeilad pwrpasol ar gampws deniadol Llanbadarn.

Y Cynlluniau Gradd

Yn ogystal â’r tair rhaglen anrhydedd sengl, gall myfyrwyr ddewis cyfuno Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth neu Reoli Gwybodaeth â phynciau eraill mewn tair ffordd: yn rhan o radd Anrhydedd Cyfun, lle byddwch yn rhoi 50% o’ch amser i Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth a 50% i bwnc arall; yn Brif Bwnc, lle byddwch yn rhoi dwy ran o dair o’ch amser i’r cwrs Rheoli Gwybodaeth a thraean i’r pwnc arall (Is-Bwnc); neu yn Is-Bwnc lle byddwch yn gwneud traean o’r cwrs mewn Rheoli Gwybodaeth a dwy ran o dair mewn pwnc arall.

Gyrfaoedd

Gan fod gwybodaeth yn cael ei hystyried fwyfwy yn adnodd craidd i sefydliadau o bob math, y mae’r amrywiaeth o swyddi y mae ein graddedigion yn symud ymlaen iddynt yn cynyddu’n gyson. Yn ogystal â sectorau traddodiadol llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth, mae ein graddedigion hefyd yn mynd yn Swyddogion Gwybodaeth, Rheolwyr Gwybodaeth, Swyddogion Systemau Gwybodaeth, Dadansoddwyr Gwybodaeth a Swyddogion Systemau Cyfrifiadurol. Hefyd, mae ein cynlluniau anrhydedd cyfun a phrif bwnc/is-bwnc yn rhoi cyfle i fynd i swyddi lle mae angen sgiliau penodol ar gyfer gwaith trefnu mewn cwmnïau sy’n gweld gwerth gwybodaeth, er enghraifft swyddi rheoli, gwerthu, cynhyrchu neu farchnata sy’n gofyn am sgiliau rheoli gwybodaeth.

Astudiaethau Gwybodaeth gyda phynciau eraill

Mae Aberystwyth yn cynnig y cyfle i gyfuno Astudaethau neu Rheoli Gwybodaeth neu Astudiaethau Arcifol gydag amrywiaeth o bynciau eraill ac mewn gwahanol gyfuniadau: unai fel graddau Anrhydedd Cyfun wedi’i rhannu 50-50 rhwng dau bwnc, neu fel graddau Prif Bwnc/Is-bwnc. Cliciwch yma