- Astudiaethau Gwleidyddol - L200
- Gwleidyddiaeth - L201*
- Gwleidyddiaeth Ewropeaidd - L253
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol - L254
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol - L255*
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru - L245*
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol - LV2H
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol - L268
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth - L250
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol - L251
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Trydydd Byd - LL29
- Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru - L243*
- Heddwch, Gwrthdaro a Diogelwch - LL24
Sefydlwyd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth yn 1919 yn adwaith yn erbyn rhyfel – a hi felly oedd yr adran gyntaf o’i bath, ac yr oedd yn fenter academaidd ac idealistig. Mae’r Adran yn parhau’r traddodiad hwn ac yn astudio prif faterion cyfoes y byd: grym, gwrthdaro a chyfiawnder; dynoliaeth, diogelwch a moesoldeb; arweinyddiaeth, syniadau a chyfranogiad gwleidyddol. Fel academyddion ac athrawon, rydym yn fwriadol yn edrych y tu hwnt i benawdau’r dydd er mwyn olrhain y digwyddiadau hanesyddol, y ddeinameg wleidyddol a’r cysyniadau sy’n siapio’n dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas. Ceisiwn ateb y cwestiynau hynny sy’n gofyn ‘pam’, ac mae hynny’n golygu, mewn byd o dlodi, terfysgaeth ac anghydraddoldeb, bod Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc academaidd pwysig – os nad y pwysicaf oll – i’w astudio y dyddiau hyn.
Nid oes angen ichi fod wedi astudio gwleidyddiaeth eisoes er mwyn dilyn cwrs gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Yr oll sydd ei angen yw meddwl praff a diddordeb byw yn y pwnc. Rydym ni’n un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop gyda dros 40 o staff academaidd. Mae holl aelodau'r staff yn gwneud ymchwil ac yn cyhoeddi yn rhyngwladol (yn yr Arolwg Ymchwil diweddaraf, dyfarnwyd inni un o’r safleoedd uchaf yn y DU) a hefyd yn chwarae rhan lawn yn y dysgu (y dyfarnwyd ei fod yn ‘rhagorol’). Mae statws ein hymchwil a’n dysgu yn golygu ein bod yn un o’r pum Adran uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Anogir israddedigion i gymryd rhan yn y digwyddiadau academaidd niferus a drefnir gan yr Adran a’i chanolfannau ymchwil, sy’n amrywio o weithdai a seminarau i efelychiadau o argyfyngau rhyngwladol. Caiff myfyrwyr hefyd y cyfle i fynd ar daith gyfnewid academaidd i Ewrop, Canada neu Awstralia ac i gymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliadau Gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin a'r Cynulliad. Rydym hefyd yn hyrwyddo casgliad bywiog o gymdeithasau myfyrwyr, sy’n gwneud cyfraniad o bwys i’r Adran ac i gymuned y myfyrwyr yn gyffredinol.
Mae’r Adran wedi’i lleoli mewn adeilad pwrpasol a chyfoes a agorwyd yn ystod haf 2006. Yma ceir swyddfeydd y staff ac ochr weinyddol yr Adran, ardaloedd adnoddau myfyrwyr, ystafelloedd lle cynhelir digwyddiadau, a rhai gweithgareddau sy’n ymwneud â dysgu.
- Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth, a sefydlwyd yn 1919, oedd yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf mewn unrhyw brifysgol yn y byd
- ar y brig am addysgu, dyfarnwyd yn ‘rhagorol’ yn yr Asesiad o Ansawdd Dysgu
- ymchwil ar y raddfa uchaf ym maes cysylltiadau rhyngwladol fel a ddengys yn Arolwg Ymchwil 2008
- deuddeg cynllun gradd anrhydedd sengl i israddedigion, ac amrywiaeth eang o gynlluniau anrhydedd cyfun a phrif bwnc/is-bwnc
- cyfle i weithio yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad
- rhaglenni cyfnewid â gwledydd Ewropeaidd eraill, Canada ac Awstralia
- cyfle i gymryd rhan mewn gemau efelychu argyfyngau
- adeilad newydd nodedig a phwrpasol a agorwyd yn haf 2006 sy’n adlewyrchu enw da rhyngwladol yr Adran ac yn darparu cyfleusterau rhagorol
- amgylchedd bywiog a chosmopolitan i fyfyrwyr.
- rhaglen fywiog o siaradwyr gwadd a chyfle i gyfrannu i gymdeithasau’r Adran a gweithio i’r cyfnodolyn adrannol sydd dan ofal y myfyrwyr.
- cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy er mwyn lledu gorwelion eich gyrfa
Dysgu ac Asesu
Mae’r staff yn cynnig modiwlau arbenigol yn eu meysydd ymchwil ac yr ydym yn credu’n gryf bod y synergedd rhwng ymchwil a dysgu yn golygu y bydd yr addysg a gynigiwn yn ysgogi myfyrwyr i feddwl. Mae’r amrywiaeth eang o arbenigedd yn cynnwys: Cysylltiadau Rhyngwladol, Athroniaeth Wleidyddol, Astudiaethau Strategol, Hanes Rhyngwladol, Astudiaethau Cuddwybodaeth, Astudiaethau Terfysgaeth Beirniadol, Arweinyddiaeth Wleidyddol, Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, Gwleidyddiaeth Cymru ac Astudiaethau’r Trydydd Byd. Mae gennym agwedd hyblyg tuag at y cynlluniau gradd a gall pob myfyriwr ddilyn unrhyw rai o’n modiwlau arbenigol. Golyga hyn y gall myfyrwyr adeiladu portffolio mwy arbenigol neu amrywiol o fodiwlau, gan ddibynnu ar ffocws eu diddordeb.
Gan amlaf dysgir myfyrwyr drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno pwnc ac yn tynnu sylw at bwyntiau allweddol, a bydd y seminarau yn dod ag oddeutu 12 o fyfyrwyr ynghyd i drafod a dadansoddi’r pwnc yn drylwyr. Mae seminarau, felly, yn fodd amhrisiadwy i fyfyrwyr brofi eu yniadau neu fyfyrio ar eu profiadau eu hunain, yn ogystal â rhannu syniadau phrofiadau eraill. Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o draethodau ac arholiadau.
Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae tua 12% o israddedigion yr Adran yn siarad Cymraeg ac mae’r Adran yn cynnig amrywiaeth dda o fodiwlau cyfrwng Cymraeg. Ceir dau gynllun gradd Anrhydedd sengl Cymraeg sy’n cydredeg â’r rhai Saesneg – Gwleidyddiaeth Ryngwladol (L255) a Gwleidyddiaeth (L201). Mae’r Adran hefyd yn cynnig dau gynllun gradd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, sef Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru (L243) a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru (L245). Mae’r rhain yn canolbwyntio ar y dimensiwn Cymreig ar wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae’r Adran fel arfer yn cynnig dewis cyfrwng Cymraeg ar gyfer holl fodiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r holl fodiwlau craidd ar gyfer gradd Anrhydedd. Bydd hyn naill ai’n golygu seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg a darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg neu fodiwlau lle mae’r dysgu i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg (darlithoedd a seminarau). Mae’r ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg yn dibynnu ar ba staff sydd ar gael.
Adnoddau
Mae myfyrwyr yr Adran yn elwa ar y casgliad sylweddol o lyfrau, cyfnodolion a dogfennau yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol. Mae’r casgliad, sydd wedi bod yn cynyddu er 1919, gyda’r mwyaf o’i fath yng ngwledydd Prydain, ac mae’n cynnwys y Ganolfan Ddogfennau Ewropeaidd. Gall myfyrwyr Aberystwyth fanteisio hefyd ar y ffaith mai dim ond dafliad carreg o Gampws Penglais y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint ac yn adnodd academaidd o safon fyd-eang. Yn ogystal â chasglu’r holl adnoddau print a gyhoeddir yn y DU, y mae gan y llyfrgell gasgliadau helaeth o bapurau newydd, ffotograffau, ffilmiau a chyfryngau. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn Ganolfan Ddogfennau i’r Cenhedloedd Unedig ac mae’n gartref i ddeunyddiau Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop.
Mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaethau cyfrifiadurol ardderchog i fyfyrwyr, gan gynnwys cysylltiadau rhwydwaith am ddim yn yr holl ystafelloedd gwely/ astudio mewn neuaddau preswyl a gweithdai cyfrifiadurol am ddim i ddatblygu ac ehangu sgiliau TG y myfyrwyr.
Gyrfaoedd
Yn ogystal â rhoi addysg o’r radd flaenaf mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol i’n myfyrwyr, yr ydym yn rhoi iddynt hefyd gyfres o sgiliau arbenigol gan gynnwys y gallu i edrych y tu hwnt i ffeithiau arwynebol sefyllfa neu broses a cheisio canfod y syniadau, y ddeinameg neu’r strwythurau sylfaenol. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol wrth ddatrys problemau ac mae cyflogwyr yn chwilio’n benodol amdanynt.
Aeth nifer o’n myfyrwyr ymlaen i yrfaoedd mewn proffesiynau sydd â chysylltiad gwleidyddol megis newyddiaduraeth a chyfryngau’r teledu, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol a chenedlaethol, gweithredu gwleidyddol a’r lluoedd arfog. Mae rhai wedi ymuno â sefydliadau anllywodraethol fel Amnest Rhyngwladol neu sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, tra bo llawer yn mynd ymlaen i ddysgu. Mae eraill yn ymuno â rhaglenni hyfforddiant rheoli, y sector ariannol neu ddiwydiannau gwasanaeth.
Mae llawer o’n hisraddedigion yn mynd ymlaen i astudio cwrs Meistr, ac mae tua hanner y rheini yn dewis aros yn Aberystwyth.
Gweithgareddau Academaidd Ychwanegol
Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn gwella eu dealltwriaeth academaidd, yn ogystal â rhoi profiad gwych iddynt. Mae’r cyfleoedd amrywiol hyn ar gael i holl fyfyrwyr israddedig yr Adran:
Cynlluniau Cyfnewid
Mae’r Adran wedi datblygu cysylltiadau ag adrannau academaidd a gafodd eu dethol yn ofalus mewn prifysgolion yn Ewrop, Awstralia, UDA a Chanada. Bydd y cyfnewid yn digwydd yn ystod ail flwyddyn yr astudio. Dyma gyfle delfrydol i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau ehangu eu gorwelion academaidd a chymdeithasol, mwynhau diwylliannau eraill a gwella eu sgiliau ieithyddol. Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau sy’n berthnasol i’w cynllun gradd a bydd y marciau’n cyfri tuag at ddosbarth terfynol y radd.
Ar hyn o bryd yn Ewrop mae gennym gysylltiadau â Phrifysgol Darmstadt (Yr Almaen), Prifysgol Gwlad y Basg (Bilbao, Sbaen), Université Robert Schuman (Strasbourg, Ffrainc), Prifysgol Tampere (Y Ffindir) a Phrifysgol Wroclaw (Gwlad Pwyl). Mae gennym hefyd gytundebau cyfnewid gyda Phrifysgol McGill (Montreal, Canada), Prifysgol Victoria (Victoria, Canada) a Phrifysgol Griffith (Brisbane, Awstralia). Rydym yn cadw mewn cysylltiad agos gyda’n myfyrwyr pan fyddant dramor ac mae gan y prifysgolion sy’n croesawu’r myfyrwyr rwydweithiau cefnogi cryf. Drwy’r cynllun ERASMUS bydd myfyrwyr sy’n ymweld â phrifysgolion eraill yn Ewrop yn cael nawdd ariannol gan yr UE ac yn gallu dilyn cyrsiau iaith yn y wlad y maent yn ymweld â hi.
Cynllun Lleoliadau Gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad
Dyma gyfle eithriadol a nodedig am brofiad o waith allgyrsiol a fyddai’n sefyll allan ar unrhyw CV. Dewisir myfyrwyr i weithio fel cynorthwywyr i Aelodau Seneddol (Tŷ’r Cyffredin, San Steffan) neu Aelodau Cynulliad (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd) am gyfnod o chwe wythnos yn ystod yr haf yn dilyn eu hail flwyddyn. Mae lleoliadau gwaith ar gael gyda phob un o’r prif bleidiau gwleidyddol ac ymdrechir i leoli myfyrwyr gyda gwleidyddion sy’n gweithio mewn meysydd sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Fel arfer bydd myfyrwyr yn ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, yn gweithio ar brosiectau ymchwil ac yn ymwneud â gwaith etholaethol. Yn y gorffennol maent wedi ymwneud ag etholiadau a’r ymateb i argyfyngau rhyngwladol o bwys. Dyma gyfle gwych i weld sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio, ac mae cyfle i holl fyfyrwyr ail flwyddyn yr Adran ymgeisio.
Efelychiadau o Argyfyngau Rhyngwladol
Cynhelir ‘gemau’ efelychu argyfyngau dwywaith y flwyddyn yng Ngregynog, plasty gwledig Prifysgol Cymru ger y Drenewydd. Paratoir sefyllfa ar gyfer argyfwng rhyngwladol dychmygol – ond un sydd wedi ei seilio mewn bywyd gwleidyddol go iawn – ac mae myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn cael rôl i’w chwarae yn y ddrama sy’n datblygu o’r sefyllfa. Rhennir y myfyrwyr i dimau sy’n cynrychioli gwledydd neu sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig ac yna maent yn dechrau’r chwarae. Mae’r argyfwng yn datblygu dros dri niwrnod ac mae’n brawf gwirioneddol o allu’r myfyrwyr i wneud penderfyniadau cyflym, gweithio’n rhan o dîm, cyfathrebu mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, trin a thrafod y cyfryngau, datrys problemau a chanfod eu ffordd drwy sefyllfaoedd cymhleth. Mae’r achlysur yn un hwyliog, bywiog a hynod ddiddorol!
Gweithgareddau a Drefnir gan Fyfyrwyr
Mae amrywiaeth eang o gymdeithasau yn gysylltiedig â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Dyma restr o’r grwpiau a geir ar hyn o bryd:
Cymdeithas Gwleidyddiaeth y Byd
Dyma gymdeithas ar gyfer israddedigion yn bennaf, ond sydd hefyd yn croesawu graddedigion o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a chymuned y myfyrwyr yn ehangach. Y bwriad yw ymchwilio i bynciau penodol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, cyfraith ryngwladol a’r economi ryngwladol a hybu trafodaeth rhwng myfyrwyr. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys trafodaethau ar brif ddigwyddiadau’r byd wrth iddynt ddatblygu yn y newyddion, siaradwyr gwadd a thrafodaethau bord gron. Maent hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn amgylcheddau llai ffurfiol (mewn caffi neu dafarn!) a digwyddiadau cymdeithasol gan gynnwys dawns elusennol.
Y Gymdeithas Ewropeaidd
Mae aelodau ‘EuroSoc’, fel y’i gelwir, yn amrywiol iawn ac mae’r gymdeithas yn denu myfyrwyr o bob rhan o Ewrop a thu hwnt. Daw aelodau i adnabod ei gilydd drwy gyfrwng digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol – gan gynnwys parti gyda bwyd o sawl gwlad ac ardal yn Ewrop. Maent hefyd yn cynnal dadleuon a thrafodaethau academaidd ar faterion sy’n ymwneud ag Ewrop megis ehangu aelodaeth a’i oblygiadau, a delfrydau Ewropeaidd.
Interstate
Mae’r cyfnodolyn hwn yn cyhoeddi erthyglau ar amrywiaeth eang o bynciau ac yn creu trafodaeth academaidd o fewn cymuned y myfyrwyr, gan ymwneud â rhai o ddigwyddiadau pwysicaf ein hoes ni. Mae’n cynnwys erthyglau gan fyfyrwyr sydd ar bob lefel o astudio, aelodau o staff, Aelodau Seneddol a gweithredwyr gwleidyddol. Mae Interstate yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr gyhoeddi gwaith ac i’r gwaith hwnnw gael ei ddosbarthu i brifysgolion yn y DU ac i rai prifysgolion dramor, hyd yn oed.
Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig
Mae CCU Aber yn ceisio codi ymwybyddiaeth o faterion cyfredol y Cenhedloedd Unedig a sut y mae sefydliadau’r CU yn gweithio. Mae’n cynnal digwyddiadau efelychu pan fydd aelodau, gan gynrychioli gwahanol wledydd, yn trafod materion cyfoes allweddol yn ôl rheolau trefniadol Cynulliad Cyffredinol y CU. Mae hyn yn llawer o hwyl ac mae’n rhoi cipolwg ar wleidyddiaeth y byd. Mae’r aelodau hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ‘Model UN’ yn Rhydychen, Caergrawnt a Llundain (digwyddiad rhyngwladol). Drwy CCU Aber, gall myfyrwyr ymgeisio am sawl trip astudio a chynlluniau cyfnewid CCU neu ddilyn amrywiaeth o gyrsiau cadw heddwch y CU.
Cymdeithas Gwleidyddiaeth Cymru
Mae’r gymdeithas hon ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn trafod materion sydd o bwys i Gymru a’r byd, a chynigir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn rhai cyfarfodydd. Mae'r rhaglen wedi cynnwys: trafodaeth o amgylch y bwrdd ar ddegfed pen blwydd y refferendwm ar ddatganoli gyda’r Gwir Anrh. Dafydd Wigley, yr Arglwydd Elystan Morgan a Glyn Davies; cwis gwleidyddol; cyflwyniad gan Hywel Williams (o’r Guardian) ar etifeddiaeth Tony Blair; a’r Arglwydd Elis-Thomas yn trafod ei weledigaeth ar gyfer dyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynnwys a Strwythur
Mae’r Adran yn cynnig 6 modiwl i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf. Anogir myfyrwyr i ddilyn y modiwlau hyn i gyd yn eu trefn er mwyn magu dealltwriaeth sylfaenol dda ac eang o’r ddisgyblaeth, ond gallwch ddewis rhai modiwlau o adrannau eraill os byddai hynny’n well gennych.
- Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol
- Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol y Trydydd Byd
- Gwleidyddiaeth y Byd yng Nghyfnod y Ddau Ryfel Byd
- Chwyldro a Dilyniant mewn Athroniaeth Wleidyddol
- Gwleidyddiaeth yn Ewrop
- Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth
Lefel Anrhydedd
Rhaid i fyfyrwyr ddilyn modiwl craidd eu cynllun gradd a chwblhau traethawd estynedig 12,000 o eiriau yn eu blwyddyn olaf. Wedi hynny, gall myfyrwyr ddewis eu modiwlau o’r amrywiaeth helaeth sydd ar gael ar lefel Anrhydedd. Mae’r modiwlau Anrhydedd fel arfer yn adlewyrchu diddordebau ymchwil y staff, a bydd myfyrwyr yn elwa yn sgil dysgu brwdfrydig a diddorol gan arbenigwyr yn y maes sydd wrthi’n ddyfal yn meddwl ac yn ysgrifennu am y pwnc y maent yn ei ddysgu.
Cynlluniau Gradd Anrhydedd Sengl:
- Astudiaethau Gwleidyddol - L200
- Gwleidyddiaeth - L201*
- Gwleidyddiaeth Ewropeaidd - L253
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol - L254
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol - L255*
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru - L245*
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol - LV2H
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol - L268
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth - L250
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol - L251
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Trydydd Byd - LL29
- Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru - L243*
- Heddwch, Gwrthdaro a Diogelwch - LL24
* = Cwrs a ddysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg