Gwleidyddiaeth Ewrop
L253 - 3 blynedd
Mae’r cynllun gradd hwn yn cyfuno cefndir cyffredinol mewn materion rhyngwladol â ffocws penodol ar wleidyddiaeth Ewrop. Erbyn diwedd y cynllun gradd dylai myfyrwyr feddu ar: ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion a thrafodaethau allweddol ym maes gwleidyddiaeth gyfoes Ewrop; dealltwriaeth gyffredinol o’r prif faterion, agweddau a thrafodaethau ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol; ac arbenigedd benodol yn yr agweddau ar wleidyddiaeth Ewrop y maent wedi dewis arbenigo ynddynt. Yn y flwyddyn gyntaf, cyflwynir myfyrwyr i rai o brif syniadau, trafodaethau a materion yr astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol a gwleidyddiaeth Ewrop, â modiwl craidd ar wleidyddiaeth Ewrop a dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau eraill ar agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol. Yn yr ail flwyddyn bydd myfyrwyr yn astudio modiwl craidd ar wleidyddiaeth Ewrop a gallant ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau arbenigol eraill ar wleidyddiaeth Ewrop a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Ar ben hyn, bydd myfyrwyr yn paratoi traethawd estynedig ar agwedd benodol ar wleidyddiaeth Ewrop.