Astudiaethau Ewropeaidd (Anrhydedd Cyfun)


RR19 - Astudiaethau Ewropeaidd gyda Ffrangeg
RR29 - Astudiaethau Ewropeaidd gydag Almaeneg
RR49 - Astudiaethau Ewropeaidd gyda Sbaeneg

Cynlluniau gradd rhyngddisgyblaethol pedair blynedd o hyd sy’n canolbwyntio ar Ewrop yw’r rhain. Erbyn diwedd eich blwyddyn olaf byddwch yn hyddysg ym maes: esblygiad hanesyddol Ewrop; datblygiad strwythurau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol cyfoes yn Ewrop; a thrafodaethau a materion sy’n allweddol i ddyfodol Ewrop, o sawl safbwynt deallusol a gwleidyddol. Bydd angen i fyfyrwyr hefyd fodloni nodau ac amcanion penodol y modiwlau unigol y byddant yn eu dewis. Mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys astudiaeth ddwys o un o’r ieithoedd canlynol: Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg. Bydd astudio’r iaith yn yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd yn cyfateb i draean o’r cynllun gradd. Mae gweddill y cynllun gradd yn cynnwys modiwlau craidd mewn gwleidyddiaeth Ewropeaidd, yn ogystal ag ystod eang o fodiwlau dewisol a gynigir gan adrannau yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfadran y Celfyddydau. Fel hyn byddwch yn dysgu mwy am yr agweddau ar Ewrop sydd o ddiddordeb pennaf i chi. Yn rhan ganolog o’r radd hon byddwch yn treulio blwyddyn academaidd (trydedd flwyddyn eich gradd fel arfer) dramor yn un o’n prifysgolion cyswllt yn astudio eich iaith dramor arbenigol

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol