Mae’r rhaglen Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol yn cwmpasu’r prif themâu a thrafodaethau sydd wedi ymddangos wrth astudio hanes gwleidyddiaeth ryngwladol dros y ganrif ddiwethaf. Mae gan y rhaglen ddau brif nod. Y cyntaf yw sicrhau bod myfyrwyr yn deall y gwahanol ddulliau o astudio hanes rhyngwladol a’u cyflwyno i gysyniadau pwysig megis hanesyddiaeth, dehongli hanesyddol a thystiolaeth. Yr ail nod yw cyflwyno myfyrwyr i hanes gwleidyddiaeth ryngwladol dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae Rhan Un yn cynnwys cyflwyniad cyffredinol i Wleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol. Yn Rhan Dau bydd myfyrwyr yn cyfuno elfen graidd arbenigol yr Adran ag amrywiaeth eang o ddewisiadau sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o gyfnodau a themâu ym maes Hanes Rhyngwladol cyfoes.
Oliver Housley
BSc Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Nottingham
“Fe ddewisais i astudio yn Aberystwyth oherwydd enw da’r Adran ac
argymhellion gan gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol. Mae’r awyrgylch yn
Aberystwyth yn ffantastig ac mae rhywbeth yma i bawb.
Doedd ymgartrefu ddim yn broblem, ac mae digon o gefnogaeth
bersonol ac academaidd ar gael os oes angen. Mae’r adran yn grêt. Mae’r
cyfleusterau academaidd o’r radd flaenaf. Mae gennych fynediad llawn
at ddogfennau/adnoddau ysgolheigaidd ac mae Llyfrgell Genedlaethol
Cymru gerllaw.
Mae’r cyfleusterau diwylliannol yma yn rhagorol! Rwy’n mynd i weld
Marcus Brigstocke yng Nghanolfan y Celfyddydau’n fuan. Mae’r bywyd
cymdeithasol yn ardderchog hefyd. Mae digonedd yn digwydd yn yr
Undeb fel Reload a Cashback. Mae na
dafarndai braf iawn yn y dref hefyd gyda
phrisiau rhesymol dros ben.
Rwy’n hoffi’r annibyniaeth bersonol
ac academaidd sydd yma i chi, ynghyd
â’r awyrgylch cyffredinol (yn enwedig
y bywyd nos). Yn bendant fe fyddwn i’n
argymell Aberystwyth i bobl eraill, mae’n
brifysgol wych.”
Gwybodaeth y Cynllun Astudio
Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: