Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth
Cynllun gradd yw hwn sy’n cyfuno dull cyffredinol o astudio
Gwleidyddiaeth Ryngwladol â ffocws penodol ar natur a swyddogaeth
Cudd-wybodaeth. Yn y flwyddyn gyntaf caiff myfyrwyr eu cyflwyno i rai o
syniadau, trafodaethau a materion allweddol maes Gwleidyddiaeth
Ryngwladol ac is-feysydd Astudiaethau Strategol ac Astudiaethau
Cudd-wybodaeth. Bydd y rhain yn cael eu datblygu mewn cyfres o fodiwlau
craidd Anrhydedd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Dysgir y myfyrwyr sut
i ddadansoddi materion cymhleth mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o sawl
safbwynt ac agwedd. Yn ogystal â hyn ceir nifer o fodiwlau sy’n
canolbwyntio’n fwy penodol ar gudd-wybodaeth a materion sy’n ymwneud â
chudd-wybodaeth. Bydd myfyrwyr yn edrych ar natur a swyddogaeth ysbïo,
datrys codau a chêl-ddadansoddi yn ogystal â mathau eraill o gywain
cuddwybodaeth. Byddant hefyd yn dysgu am y broses o asesu
cudd-wybodaeth, swyddogaeth cudd-wybodaeth wrth greu polisïau tramor a
diogelwch, a llwyddiant a methiant cudd-wybodaeth yn y rhyfel ar
derfysgaeth.
Gwybodaeth y Cynllun Astudio
Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: