Gwleidyddiaeth Ryngwladol

L255 - 3 blynedd

No Javascript

warningPlease turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.

L255 - BSc 3 blynedd

Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw’r cynllun gradd ehangaf a mwyaf amrywiol o blith cynlluniau’r Adran. Y diffiniad gorau o Wleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth yw astudiaeth o’r modd y mae cymdeithasau dynol yn rhyngweithio â’i gilydd a sut y maent yn delio â gwahanol fath o newidiadau byd-eang (economaidd, diwylliannol a gwleidyddol).

Un o brif amcanion y cynllun Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw dysgu myfyrwyr sut y mae’r system fydeang neu ryngwladol yn cael ei ffurfio gan, ac yn ei thro yn ffurfio, y trobwyntiau mawr hanesyddol. I wneud hyn yn dda y mae angen i fyfyrwyr ddeall cysyniadau allweddol Gwleidyddiaeth Ryngwladol, defnyddio gwahanol ffyrdd o ymdrin â’r maes a chymhwyso syniadau o sawl disgyblaeth ar wahân i Wleidyddiaeth Ryngwladol. Gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau ar gyfer astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol trwy ddefnyddio, er enghraifft, Hanes, Economeg, Athroniaeth a Damcaniaeth Gymdeithasol a Gwleidyddol.

Yn Rhan Un bydd myfyrwyr yn astudio’r modiwl Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol sy’n eu cyflwyno iamrywiol agweddau damcaniaethol y ddisgyblaeth. Yn Rhan Dau bydd yr holl fyfyrwyr yn astudio’r modiwl craidd gorfodol ar ddamcaniaeth gwleidyddiaeth ryngwladol sy’n dyfnhau eu dealltwriaeth o’r damcaniaethau.

Shona Macleod BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Ffrangeg
Stirling, Yr Alban
“Fe ddewisais i astudio yn Aberystwyth oherwydd enw da’r Brifysgol am Wleidyddiaeth Ryngwladol, yr awyrgylch cyfeillgar pan ddes i ymweld, ac wrth gwrs y traeth! Roedd yn hawdd iawn ymgartrefu yma, dim ond wythnos gymerodd hi! Mae’r awyrgylch yn Aberystwyth yn grêt. Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn barod iawn i helpu ac mae’r darlithoedd yn ddiddorol iawn. Mae’n hawdd dod o hyd i lyfrau yn y llyfrgell, ac mae’n grêt bod labordai cyfrifiadurol 24 awr ar gael. Mae digonedd o glybiau a chymdeithasau i chi ymuno â nhw ac mae pawb mor gyfeillgar. Mae’r bywyd cymdeithasol yma yn dda dros ben. Gallwch fynd allan unrhyw noson o’r wythnos i’r undeb neu’r dref ac mae digon i’w wneud yma. Byddwn i’n bendant yn argymell eraill i ddod yma! Falle bod y lle yng nghanol unman braidd ond unwaith y dewch chi yma byddwch chi am aros!”

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol