Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol


LV2H - 3 blynedd

Ers 11 Medi 2001 mae nifer o sylwebyddion ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol yn teimlo bod gwladwriaethau, yn ogystal â gweithredwyr is-wladwriaeth a di-wladwriaeth, wedi dychwelyd at ddefnyddio grym fel ‘y dewis arf’ wrth ymateb i wrthdaro. Mae’r cynllun gradd yma yn galluogi myfyrwyr i archwilio rhagflaenwyr hanesyddol gwrthdaro cyfoes yn fanwl ac yn rhoi golwg ar yr hyn a alwodd Carl von Clausewitz, y damcaniaethwr rhyfel Prwsiaidd o’r 19eg ganrif, yn ‘gyfrwng arall o barhau gwleidyddiaeth’. Gall myfyrwyr astudio’r damcaniaethau a gynigiwyd ynghylch defnyddio grym ac ystyried enghreifftiau o ymddygiad cenhedloedd a grwpiau is-genedl (megis herwfilwyr, gwrthryfelwyr a mudiadau rhyddid cenedlaethol) mewn rhyfel o’r 19eg ganrif hyd heddiw. Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 yw modiwl craidd gorfodol y cwrs. Ceir hefyd ystod eang o fodiwlau dewisol ar lefel Anrhydedd, a all gynnwys modiwlau megis The Middle East in the 20th Century; Land of Ghosts – International Politics in the Balkans since 1919; a The VietnamWar. Gall myfyrwyr hefyd astudio modiwlau sy’n canolbwyntio ar effaith tueddiadau ehangach megis datblygiadau technolegol a thwf gwasanaethau cudd-wybodaeth ar ryfela, strategaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol