Astudiaethau Gwleidyddol


L200 - 3 blynedd

Diben y radd mewn Gwleidyddiaeth yw edrych yn agos ar fframwaith llywodraeth a’r ffordd y mae’n gweithio, er mwyn gweld sut y gall pobl ‘gyffredin’ wneud gwahaniaeth trwy gymryd rhan, a hefyd archwilio’r syniadau sy’n sail i bob agwedd ar rym a chymdeithas. Wrth ddilyn y cynllun bydd myfyrwyr yn gallu astudio nifer o wahanol fathau o lywodraeth a bydd y radd yn dangos sut y mae sefydliadau penodol (megis y senedd, adrannau’r llywodraeth a’r cabinet) yn gweithio, gan ddatgelu’r cyd-destun cymdeithasol ac economaidd sy’n eu ffurfio. I wneud hyn mae’n rhaid astudio’r cysyniadau, y delfrydau a’r tybiaethau sy’n dylanwadu ar y syniadau canolog sydd wrth wraidd y bywyd gwleidyddol (er eu bod yn syniadau sy’n cael eu herio’n aml), megis rhyddid, y gymuned, cydraddoldeb a hawliau. Yn ystod y cynllun gradd bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o wledydd y Gorllewin, yr hyn a elwir y Trydydd Byd a’r rhanbarth Sofietaidd gynt, a chânt gyfle i astudio prosesau gwleidyddol ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a lleol trwy ddadansoddi gweithredwyr y wladwriaeth, pleidiau gwleidyddol, mudiadau cymdeithasol a’r dinasyddion eu hunain.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol