Gwleidyddiaeth (Anrhydedd Cyfun a Phrif Bwnc/Is-Bwnc)
Cyfuno Gwleidyddiaeth â phynciau eraill
Please turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.
Rhaglenni Anrhydedd Cyfun
Mae dwy ffordd i fyfyrwyr ddewis cyfuno Gwleidyddiaeth â phynciau eraill. Y gyntaf yw’r radd anrhydedd cyfun arferol, sy’n galluogi myfyrwyr i wneud 50% o’u dewisiadau mewn Gwleidyddiaeth a 50% mewn pwnc arall. Mae’r math yma o radd yn caniatáu i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dau bwnc eu cyfuno mewn cynllun gradd cydlynol.
Dyma’r pynciau y gellir eu hastudio ar y cyd â Gwleidyddiaeth mewn gradd anrhydedd cyfun:
- Drama (LWFK)
- Hanes Economaidd a Chymdeithasol (LV23)
- Saesneg (LQ23)
- Astudiaethau Ffilm a Theledu (LWF6)
- Ffrangeg (LR21)
- Almaeneg (LR22),
- Hanes (LVG1) (VLC2*)
- Daearyddiaeth Ddynol (LLT2) (LL72*)
- Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (PLC2)
- Hanes Modern (V135) (VL1F*)
- Astudiaethau Perfformio (LWGK)
- Seicoleg (CL8F)
- Sbaeneg (LR24)
- Cymraeg (LQ25*)
- Hanes Cymru (LVG2) (LV22*)
* Cwrs a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhaglenni Prif Bwnc/Is-Bwnc
Yr ail ddewis yw gradd Prif Bwnc/Is-Bwnc lle bydd myfyrwyr yn dilyn cwrs astudio dwys mewn un pwnc a’i gyfuno â phwnc arall. Bydd myfyrwyr yn treulio hyd at ddwy ran o dair o’u hamser yn adran y Prif Bwnc a thraean o'u hamser yn adran yr Is-bwnc.
Gellir dewis Gwleidyddiaeth fel Prif Bwnc gyda’r pynciau canlynol:
- Ffrangeg (L2RC)
- Y Gyfraith (L2MC)
- Cymraeg (L2Q5) (L2QM*)
* Cwrs a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dylai myfyrwyr sy’n ystyried astudio gradd Prif Bwnc mewn Gwleidyddiaeth ond sy’n ansicr pa Is-bwnc i’w ddewis wneud cais am L202 (Gwleidyddiaeth – Prif Bwnc).
Gellir dewis Gwleidyddiaeth fel Is-Bwnc gyda’r pynciau canlynol:
Busnes a Rheolaeth (N1L2), Economeg (L1L2), Y Gyfraith (M1L2), Marchnata (N5LF), Cymraeg (Q5L2*)
Mae’r cynllun gradd yma yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis yr Is-Bwnc pan fyddant yn cofrestru.