Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Trydydd Byd


LL29 - 3 blynedd

Mae mwyafrif poblogaeth y byd yn byw yn yr hyn a elwir ‘y Trydydd Byd’, ardal nad yw’n draddodiadol wedi cael llawer o sylw gan ddisgyblaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Ymgais yw’r cynllun gradd hwn i adfer y sefyllfa honno, ac mae’n cysylltu astudio’r byd datblygol â’r syniadau diweddaraf ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, Hanes Rhyngwladol, yr Economi Wleidyddol Ryngwladol ac Astudiaethau Diogelwch. Yn y flwyddyn gyntaf bydd myfyrwyr yn astudio modiwl rhagarweiniol sy’n trafod materion megis effeithiau gwladychiaeth, natur un o wladwriaethau’r Trydydd Byd, tlodi a datblygu, cysylltiadau economaidd rhwng y Gogledd a’r De a materion yn ymwneud â diogelwch yn y Trydydd Byd. Gallwch hefyd ddewis o blith sawl modiwl arall yn Rhan Un. Yn Rhan Dau bydd myfyrwyr yn astudio modiwl craidd ar y Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, sy’n canolbwyntio ar agweddau economaidd, diwylliannol a gwleidyddol ar y berthynas rhwng y Gogledd a’r De. Ceir hefyd nifer o fodiwlau dewisol ar faterion y Trydydd Byd, gan gynnwys rhai ar Affrica, America Ladin a’r Dwyrain Canol ac ar faterion megis newyn, hilladdiad, imperialaeth, ymyrraeth ddyngarol ac ymyrraeth y Rhyfel Oer yn y Trydydd Byd. Mae’r rhaglen yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth eang o sefyllfa newidiol y Trydydd Byd o fewn i system ryngwladol gwladwriaethau, gan gynnwys materion cyfoes megis y rhyfel ar derfysgaeth a phrosesau twf byd-eang. Mae’r amrywiaeth eang o ddewisiadau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfuno modiwlau damcaniaethol mwy cyffredinol ag astudiaeth o bynciau penodol a rhanbarthau arbennig
Ellena Marie Cruse BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol Ilford, Llundain
“Fe ddewisais i astudio yn Aberystwyth oherwydd enw da’r Adran, sy’n adnabyddus o gwmpas y byd. Mae gwell ymdeimlad o gymuned yma nag sydd yna gartref, ac rydych chi’n gweld pobl rydych chi’n eu nabod drwy’r amser. Rwy’n chwarae pêl-rwyd i dîm cyntaf y Brifysgol a thu allan i’r Brifysgol hefyd. Mae’r merched i gyd yn gyfeillgar ac rydyn ni’n cael llawer o nosweithiau cymdeithasol gwirioneddol dda. Mae cymuned chwaraeon fawr yma sy’n dda iawn. Beth rwy’n ei hoffi orau am Aberystwyth yw’r ymdeimlad o gymuned, a’r ffaith y gallwch chi fynd allan i gwrdd â chymaint o bobl rydych chi’n eu nabod. Rydych chi’n gwneud ffrindiau agos iawn. Byddwn i’n argymell Aberystwyth i bobl eraill oherwydd beth bynnag eich diddordebau, boed academaidd, chwaraeon, neu gymdeithasol, gallwch eu gwneud nhw i gyd yma. Mae’n lle mor ddymunol.”

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol