Pam Astudio’r Gyfraith neu Droseddeg?

Hanfod y Gyfraith yw sicrhau cyfiawnder: rhwng dinesydd a dinesydd; rhwng dinesydd a chorfforaethau; rhwng corfforaeth a corfforaeth; a rhwng dinesydd a chorfforaeth a'r wladwriaeth. O astudio'r Gyfraith felly astudir pwnc sy'n sylfaenol i les cymdeithas. Astudiwyd y Gyfraith yn Aberystwyth ers 1901, ac, ers 2006, mae'r adran honno wedi arbenigo hefyd yn y ddisgyblaeth gysylltiedig, Troseddeg. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae nifer o academyddion a throseddegwyr blaenllaw ym maes y Gyfraith wedi dysgu yn yr Adran: a gwnaeth ein graddedigion argraff mewn ystod o yfaoedd.

Pam astudio yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn adran hirsefydlog ac uchel ei pharch.
  • Mae gan yr Adran amrywiaeth o gynlluniau anrhydedd sengl sy'n apelio at amrywiaeth o ddiddordebau mewn llawer o feysydd yn y gyfraith a throseddeg.
  • Cewch gyfleoedd i arbenigo ar feysydd penodol yn ogystal â datblygu arbenigedd yn sgiliau craidd eich dewis bwnc.
  • Mae cyfleoedd ar gael i astudio dramor mewn un o’n sefydliadau partneriaethol yn Utrecht (yr Iseldiroedd), Katowice a Wroclaw (Gwlad Pwyl), Brno (y Weriniaeth Tsiec) a Helsinki (y Ffindir) - maent i gyd yn cynnig cyrsiau drwy’r Saesneg.
  • Saif Aberystwyth yn gyson ar ben y tablau boddhad myfyrwyr.
  • Mae’r staff sy’n eich dysgu yn cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol, yn helpu i lunio polisïau ym meysydd cyfreithiol, troseddegol a meysydd cysylltiedig, yn ogystal â gwneud gwaith ymchwil a chyhoeddi.
  • Cewch y fantais o gael eich dysgu mewn grwpiau bychain, ac elwa ar sustem tiwtoriaid personol cefnogol.
  • Mae siaradwyr Cymraeg yn cael y cyfle i gael eu dysgu a’u cymorth bugeiliol drwy'r Gymraeg.
  • Mae Aberystwyth mewn lleoliad prydferth sy’n rhoi amgylchedd ysgogol a heriol lle y cewch ddatblygu, nid yn unig dealltwriaeth drylwyr o’ch pwnc ond hefyd y galluoedd beirniadol a dadansoddol sy’n hanfodol i ddeall sut maent yn effeithio ar y gymdeithas.

Beth am gael golwg ar y Graddau yn y Gyfraith a Throseddeg y gallwn eu cynnig i chi?

Hector Phoenix Owuye BA Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Ryngwladol Dwyrain Sussex
“Oherwydd fy anabledd roedd angen lle digon bach arnaf i, oedd yn hawdd cyrraedd ato, ac Aberystwyth oedd un o’r gorau. Mae’r bobl yma yn gyfeillgar dros ben, mae’n dawel a does dim troseddu. Yma mae’r bywyd cymdeithasol gorau rwyf i wedi’i gael ers amser hir! Mae’r ddwy adran yn dda iawn – y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Maen nhw’n barod iawn i helpu. I ddechrau doedd y Llyfrgell ddim yn hygyrch iawn i berson anabl, ond mae wedi gwella’n ddramatig erbyn hyn. Mae’r cyfleusterau yn wych, llawer gwell nag oedden nhw yn fy mlwyddyn gyntaf. Mae Aberystwyth yn un o’r trefi yna – mae yna rywbeth sy’n eich denu chi ati. Mae’r bywyd cymdeithasol yn anhygoel, mae cymaint o fariau, tafarnau, a chlybiau, mae’n ddiddiwedd. Mae tirlun bendigedig yma, mae’n dref myfyrwyr, mae’r bobl yn gyfeillgar, mae’n lle hyfryd i astudio, a does dim troseddu felly rydych chi’n teimlo’n ddiogel ddydd a nos.”