Graddau Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth


Graddau Troseddeg

Mae troseddeg yn golygu mwy nag astudio troseddwyr; mae'n cynnwys llawer o ddisgyblaethau gyda’i gilydd wrth ymdrechu i ddeall amrywiaeth o ymddygiadau problematig, ac mae’n defnyddio damcaniaethau seicolegol, cymdeithasegol, cyfreithiol, economaidd a hanesyddol yn ei hesboniadau. Mae troseddeg hefyd yn ystyried yr ymatebion cyfreithiol, cymdeithasol, a hanesyddol i ymddygiad gwyrdroëdig a throseddu, a’r effeithiau ar y dioddefwyr ac ar bolisi. Drwy astudio troseddeg datblygir sgiliau meddwl beirniadol a’r gallu i ddadansoddi a myfyrio am amrywiaeth o ddamcaniaethau.

Dyma’r cynlluniau gradd mae Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu cynnig mewn troseddeg: