Gradd Seicoleg a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
CM89 - Cynllun Gradd BSc Econ 3 blynedd
Gradd mewn Seicoleg a Throseddeg [CM89]
Mae troseddeg yn ystyried diffiniadau cymdeithasol o ymddygiadau troseddol, y canlyniadau i’r bobl sy’n mynd yn groes i’r ffiniau cymdeithasol hynny, ac effeithiau eu gweithgareddau ar y dioddefwyr ac ar y gymdeithas ehangach. Mae’r agweddau hyn, sydd yn aml yn gwrthdaro, yn cael eu hastudio o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol.
Bydd y cwrs yn rhoi i chi ddealltwriaeth o ddamcaniaethau troseddegol a chyfiawnder troseddol, gan gynnwys agweddau seicolegol, cymdeithasegol a chyfreithiol tuag at y pwnc. Yr Adran Seicoleg sy'n cynnal y radd anrhydedd cyfun mewn Seicoleg a Throseddeg, a bydd myfyrwyr yn treulio hanner eu gradd yn astudio seicoleg a’r gweddill yn canolbwyntio ar droseddeg.
Swyddi gyda Gradd mewn Seicoleg a Throseddeg
Mae Troseddeg yn rhoi sylfaen academaidd ardderchog i’r rhai sy’n ystyried gyrfa gyda'r Heddlu, y Gwasanaeth Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf. Mae hi hefyd yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn meysydd rheoliadol megis Safonau Masnach neu Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu i ddadansoddwyr cudd-wybodaeth i’r Heddlu a’r Gwasanaethau Diogelwch.
Mae’r radd mewn Seicoleg a Throseddeg hefyd yn rhoi’r cefndir ymchwil a dadansoddi sydd yn angenrheidiol i astudiaethau uwchraddedig yn y pwnc hwn a phynciau cysylltiedig. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa fel seicolegydd gysylltu â Chymdeithas Seicolegol Prydain ynghylch yr achredu a’r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen.