Y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth


Mae’r gyfraith yn treiddio i bob agwedd ar fywyd heddiw. Drwy astudio'r gyfraith, yn ogystal ag ymchwilio i beth yw’r gyfraith a sut mae’n gweithredu, mae’n gallu gwella ein gwybodaeth am sut mae’r gymdeithas yn gweithio hefyd. Mae astudio’r gyfraith yn datblygu sgiliau dadansoddi a’r gallu i gyflwyno dadl yn glir a chyda chanolbwynt pendant, ac mae'n annog meddwl yn annibynnol.

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig dau fath o Radd yn y Gyfraith; bydd myfyrwyr sy’n astudio am LLB (Legum Baccalaureus neu Faglor yn y Gyfraith) yn astudio modiwlau ar wahanol feysydd, yn y gyfraith yn bennaf, er bod modd cymryd nifer cyfyngedig iawn o fodiwlau o adrannau eraill.

Ar y cwrs BA yn y Gyfraith, ar y llaw arall, bydd myfyrwyr yn astudio dau draean o’u modiwlau yn y gyfraith (y ‘prif bwnc’) a dewis traean arall o fodiwlau mewn adrannau eraill (yr ‘is-bwnc’). Fel rheol bydd myfyrwyr yn dewis pwnc penodol arall i gysylltu â’u hastudiaethau yn y gyfraith o’r rhestr a roddir o dan BA yn y Gyfraith isod.

Mae’r ddwy radd hon yn cyfrif fel cymwysterau at ddibenion dechrau gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith.

Dyma’r Graddau yn y Gyfraith y mae’r Adran yn eu cynnig: