Gradd BA yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth


M103 - Cynllun Gradd BA 3 blynedd

BA yn y Gyfraith [M103]

Mae’r radd BA (y Gyfraith) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfuno’r Gyfraith â phynciau eraill er mwyn cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd.

Mae dau draean o’r modiwlau yn cael eu hastudio yn y Gyfraith, ac fe ellir dewis y drydedd ran sy’n weddill o unrhyw adran arall yn y Brifysgol, os byddant yn cyd-fynd â'ch amserlen. Er mwyn sicrhau bod cyfuniadau poblogaidd ar gael, mae nifer o gyfuniadau wedi'u sefydlu, gyda’u codau UCAS eu hunain. Maent yn cynnwys BA yn y Gyfraith gyda:

  • Mathemateg (M1G1)
  • Economeg (M1L1)
  • Gwleidyddiaeth (M1L2)
  • Gwleidyddiaeth Ryngwladol (M1LF)
  • Busnes a Rheolaeth (M1N1)
  • Cyfrifeg a Chyllid (M1N4)
  • Marchnata (M1N5)
  • Rheoli Gwybodaeth (M1P1)
  • Cymraeg (M1Q5)
  • Troseddeg (M1M9)

Mae’r radd BA yn y Gyfraith yn radd gymhwyso: ystyr hyn yw bod graddedigion sy’n dymuno gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar y cwrs Ymarferiad y Gyfraith neu Legal Practice Course i gyfreithwyr, neu’r cwrs Bar Vocational Course (BVC) i fargyfreithwyr.

Gyrfaoedd gyda BA yn y Gyfraith

Mae llawer o gyfleoedd am waith i raddedigion yn y gyfraith. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth astudio am radd yn y gyfraith yn golygu y bydd myfyrwyr yn addas i lawer o yrfaoedd mewn gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, busnes a’r cyfryngau yn ogystal â mynd i'r naill ochr neu’r llall o broffesiwn y gyfraith. I’r graddedigion a hoffai gymhwyso i fod yn gyfreithiwr, mae Aberystwyth yn cynnig ei Chwrs Ymarfer y Gyfraith ei hun o fewn Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Gradd yn y Gyfraith gydag Iaith

A oes gennych ddiddordeb mewn ieithoedd? Gallwch hefyd wneud gradd BA yn y Gyfraith gydag Iaith.

Mae Gradd BA yn y Gyfraith gydag iaith yn para 4 blynedd ac fe fydd yn rhoi cyfle i chi astudio’r gyfraith gydag un o dair iaith Ewropeaidd. Dyma’r ieithoedd a gynigir:

  • Ffrangeg [M1RC]
  • Almaeneg [M1RF]
  • Sbaeneg [M1RK]

Treulir y drydedd flwyddyn yn astudio yng Nghyfadran y Gyfraith yn un o'n sefydliadau partneriaethol mewn gwlad sy'n berthnasol i'r iaith a astudir. Mae’r flwyddyn honno yn rhoi cyfle i chi ddysgu am gyfundrefn gyfreithiol arall ac i ddysgu’r eirfa gyfreithiol angenrheidiol yn yr iaith dan sylw.

Ein Sefydliadau Partner

 Cod  UCAS
Iaith 
 Prifysgol Dinas
Gwlad
 M1RC  Ffrangeg  Prifysgol Rennes
 Rennes  Ffrainc
 M1RC  Ffrangeg  Prifysgol Lyon
 Lyon  Ffrainc
 M1RC  Ffrangeg  Prifysgol Louvain de Neuve
 Louvain de Neuve
 Gwlad Belg
 M1RF  Almaeneg  Prifysgol Wurzburg
 Wurzburg  Yr Almaen
 M1RF  Almaeneg  Prifysgol Humboldt
 Berlin  Yr Almaen
 M1RF  Almaeneg  Prifysgol Frankfurt
 Frankfurt (Oder)
 Yr Almaen
 M1RK  Sbaeneg  Prifysgol Oviedo
 Oviedo  Sbaen
 M1RK  Sbaeneg  Prifysgol Salamanca
 Salamanca  Sbaen

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol