Gradd mewn Cyfraith Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth

M140 - Cynllun Gradd LLB 3 blynedd

Gradd mewn Cyfraith Busnes [M140]

Bydd y radd LLB mewn Cyfraith Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyflwyno cysyniadau cyfreithiol creiddiol yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hastudiaethau ar Gyfraith Busnes drwy ddewis elfennau dewisol priodol neu ysgrifennu traethawd hir ar faes penodol mewn Cyfraith Busnes.

Mae’r radd LLB Cyfraith Busnes yn radd gymhwyso: ystyr hyn yw bod graddedigion sy’n dymuno gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar y cwrs Ymarferiad y Gyfraith neu Legal Practice Course i gyfreithwyr, neu’r cwrs Bar Vocational Course (BVC) i fargyfreithwyr.

Gyrfaoedd gyda Graddau mewn Cyfraith Busnes

Mae llawer o gyfleoedd am waith i raddedigion yn y gyfraith. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth astudio am radd yn y gyfraith yn golygu y bydd myfyrwyr yn addas i lawer o yrfaoedd ym myd busnes, o gyfrifeg i’r sector manwerthu yn ogystal â mynd i'r naill ochr neu’r llall o broffesiwn y gyfraith. I’r graddedigion a hoffai gymhwyso i fod yn gyfreithiwr, mae Aberystwyth yn cynnig ei Chwrs Ymarfer y Gyfraith ei hun o fewn Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol