Gradd yn y Gyfraith Droseddol ym Mhrifysgol Aberystwyth
M131 – Cynllun Gradd LLB 3 blynedd
Gradd yn y Gyfraith Droseddol [M131]
Bydd y radd LLB yn y Gyfraith Droseddol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyflwyno cysyniadau cyfreithiol creiddiol yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hastudiaethau ar faes y Gyfraith Droseddol drwy ddewis elfennau dewisol priodol neu ysgrifennu traethawd hir ar faes penodol yn y Gyfraith Droseddol.
Mae’r radd LLB Cyfraith Droseddol yn radd gymhwyso: ystyr hyn yw bod graddedigion sy’n dymuno gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar y cwrs Ymarferiad y Gyfraith neu Legal Practice Course i gyfreithwyr, neu’r cwrs Bar Vocational Course (BVC) i fargyfreithwyr.
Gyrfaoedd gyda Graddau yn y Gyfraith Droseddol
Mae llawer o gyfleoedd am waith i raddedigion yn y gyfraith. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth astudio am radd yn y gyfraith yn golygu y bydd myfyrwyr yn addas i lawer o yrfaoedd mewn gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, busnes a’r cyfryngau yn ogystal â mynd i'r naill ochr neu’r llall o broffesiwn y gyfraith. I’r graddedigion a hoffai gymhwyso i fod yn gyfreithiwr, mae Aberystwyth yn cynnig ei Chwrs Ymarfer y Gyfraith ei hun o fewn Adran y Gyfraith a Throseddeg. Mae LLB yn y Gyfraith Droseddol hefyd yn rhoi cyfleoedd am swyddi gyda'r Heddlu a'r Gwasanaethau Prawf a Charchardai.