Gradd mewn Cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth


M120 - Cynllun Gradd LLB 3 blynedd

Gradd mewn Cyfraith Ewropeaidd [M120]

Bydd y radd LLB mewn Cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyflwyno cysyniadau cyfreithiol creiddiol yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hastudiaethau ar Gyfraith Ewropeaidd drwy ddewis elfennau dewisol priodol neu ysgrifennu traethawd hir ar faes penodol mewn Cyfraith Ewropeaidd.

Mae'r radd LLB Cyfraith Ewropeaidd yn radd gymhwyso: ystyr hyn yw bod graddedigion sy'n dymuno gyrfa ym mbroffessiwn y gyfraith yn gymwys i barhau a hyfforddiant galwedigaetho ar cwrs Ymarferiad y Gyfraith new Legal Practice Course i gyfreithwyr, neu'r cwrs Bar Vocational Course (BVC) o fargyfreithwyr.

Swyddi gyda Gradd mewn Cyfraith Ewropeaidd

Mae llawer o gyfleoedd am waith i raddedigion yn y gyfraith. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth astudio am radd yn y gyfraith yn golygu y bydd myfyrwyr yn addas i lawer o yrfaoedd mewn gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, busnes a’r cyfryngau yn ogystal â mynd i'r naill ochr neu’r llall o broffesiwn y gyfraith. I’r graddedigion a hoffai gymhwyso i fod yn gyfreithiwr, mae Aberystwyth yn cynnig ei Chwrs Ymarfer y Gyfraith ei hun o fewn Adran y Gyfraith a Throseddeg. Mae LLB mewn Cyfraith Ewropeaidd hefyd yn rhoi cyfleoedd i weithio gyda Sefydliadau Ewropeaidd a chyrff cyhoeddus eraill lle y mae'n hanfodol deall y maes hwn o’r gyfraith.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol