Gradd yn y Gyfraith [M100]

Y radd LLB yn y Gyfraith yw’r cynllun gradd mwyaf poblogaidd y mae’r adran yn ei gynnig yn y gyfraith, yn enwedig i’r rhai sydd am ddilyn gyrfa yn y gyfraith. Bydd yn rhoi cyflwyniad i chi i gysyniadau cyfreithiol craidd a bydd hefyd yn eich galluogi i ddewis o ystod o ddewisiadau mwy arbenigol.

Mae’r radd LLB yn y Gyfraith yn radd gymhwyso: ystyr hyn yw bod graddedigion sy’n dymuno gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar y cwrs Ymarferiad y Gyfraith neu Legal Practice Course i gyfreithwyr, neu’r cwrs Bar Vocational Course (BVC) i fargyfreithwyr.

Gradd yn y Gyfraith [M101]

Mae gradd LLB yn y Gyfraith [M101] yn rhoi cyfle i ymgeiswyr sydd eisoes wedi graddio mewn pwnc arall i wneud gradd ‘llwybr cyflym' mewn 2 flynedd. Mae’n rhoi cyflwyniad i’r holl gysyniadau craidd angenrheidiol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddewis o blith amrywiaeth o bynciau arbenigol.

Mae’r cynllun gradd dwy flynedd LLB yn radd gymhwyso: ystyr hyn yw bod graddedigion sy’n dymuno gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar y cwrs Ymarferiad y Gyfraith neu Legal Practice Course i gyfreithwyr, neu’r cwrs Bar Vocational Course (BVC) i fargyfreithwyr.

Gyrfaoedd gyda Graddau yn y Gyfraith

Mae llawer o gyfleoedd am waith i raddedigion yn y gyfraith. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth astudio am radd yn y gyfraith yn golygu y bydd myfyrwyr yn addas i lawer o yrfaoedd mewn gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, busnes a’r cyfryngau yn ogystal â mynd i'r naill ochr neu’r llall o broffesiwn y gyfraith. I’r graddedigion a hoffai gymhwyso i fod yn gyfreithiwr, mae Aberystwyth yn cynnig ei Chwrs Ymarfer y Gyfraith ei hun o fewn Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Gradd yn y Gyfraith gydag Iaith

A oes gennych ddiddordeb mewn ieithoedd?

Mae Gradd yn y Gyfraith gydag iaith yn para 4 blynedd ac fe fydd yn rhoi cyfle i chi astudio’r gyfraith gydag un o dair iaith Ewropeaidd. Dyma’r ieithoedd a gynigir:

  • Ffrangeg [M1R1]
  • Almaeneg [M1R2]
  • Sbaeneg [M1R4]

Treulir y drydedd flwyddyn yn astudio yng Nghyfadran y Gyfraith yn un o'n sefydliadau partneriaethol mewn gwlad lle y siaradir yr iaith honno. Mae’r flwyddyn honno yn rhoi cyfle i chi ddysgu am gyfundrefn gyfreithiol arall ac i ddysgu’r eirfa gyfreithiol angenrheidiol yn yr iaith dan sylw.

Ein Sefydliadau Partner

 Cod UCAS
Iaith
Prifysgol
Dinas
 Gwlad
 M1R1  Ffrangeg  Prifysgol Rennes
 Rennes  Ffrainc
 M1R1  Ffrangeg  Prifysgol Lyon
 Lyon  Ffrainc
 M1R1  Ffrangeg  Prifysgol Louvain de Neuve
 Louvain de Neuve
 Ffrainc
 M1R2  Almaeneg  Prifysgol Wurzburg
 Wurzburg  Yr Almaen
 M1R2  Almaeneg  Prifysgol Humboldt
 Berlin  Yr Almaen
 M1R2  Almaeneg  Prifysgol Frankfurt
 Frankfurt (Oder)
 Yr Almaen
 M1R4  Sbaeneg  Prifysgol Oviedo
 Oviedo  Sbaen
 M1R4  Sbaeneg  Prifysgol Salamanca
 Salamanca  Sbaen
Andrew Walters - Gradd LLB yn y Gyfraith Andre Walters - Gradd LLB yn y Gyfraith
Ceredigion

Mae’r staff yn anhygoel o ran lefel eu harbenigedd a’r cymorth maen nhw’n ei gynnig i’r myfyrwyr. Maen nhw bob tro’n fodlon treulio amser gyda chi er mwyn eich helpu i wneud eich gorau glas.

Bues i wrth fy modd yma yn Aberystwyth yn astudio’r Gyfraith ac rwy’n gallu dweud, yn hollol onest, mai dyma'r blynyddoedd gorau fy mywyd. Rwy wedi gwneud cynifer o ffrindiau da, ac rwy wedi gwneud mor dda a chyflawni cymaint, rwy wedi fy synnu fi fy hunan.

Felly, fyddwn i’n argymell dod i Brifysgol Aberystwyth? BYDDWN, heb oedi dim!

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol