Mathemateg Gymhwysol (Anrhydedd Cyfun)
3 blynedd
Bwriad y cynlluniau Mathemateg Gymhwysol yw ysgogi diddordeb hyd at ffiniau eithaf gwybodaeth gyfoes, lle mae problemau sy’n hawlio sylw mathemategol yn codi ym meysydd cosmoleg, yr atmosffer, y labordy, ac ar raddfa gronynnau elfennol. Gallwch astudio modiwlau arbenigol mewn dynameg hylifau a dadansoddi rhifiadol. Mae gan yr Adran yn Aberystwyth un o’r grwpiau mwyaf blaenllaw yng ngwledydd Prydain ym maes rheoleg a dynameg gyfrifiadurol hylifau ac mae ganddi berthynas waith agos â diwydiant.
Ar gael ynghyd â:
BSc
- Mathemateg Bur - G130
- Ystadegaeth - GG13