Mmath


G103 - 4 blynedd

Cynlluniwyd y rhaglen bedair blynedd MMath i’r rhai sydd angen dealltwriaeth lwyrach o’r pwnc nag y gellir ei gael o’r cynllun tair blynedd. Mae dwy flynedd gyntaf y cyrsiau tair blynedd a’r cwrs MMath yr un fath, a bydd cyfle os oes gennych y cymwysterau addas i drosglwyddo i’r cynllun MMath. Nodwedd arbennig ar yr MMath yn Aberystwyth yw’r pwyslais ar waith prosiect yn y flwyddyn olaf, ac rydym yn neilltuo hanner yr amser iddo. Rhan hanfodol o’r dysgu a’r asesu yw hyfforddiant mewn sgiliau cyfathrebu a sgiliau personol, a chredwn fod hyn yn elfen bwysig o’r radd. Mae’r nodweddion hyn yn hanfodol mewn diwydiant, busnes a gwaith ymchwil lle cyflogir mathemategwyr.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol