Gradd Gyffredin mewn Mathemateg
G102 - 3 blynedd
Mae gennym gynllun gradd gyffredin tair blynedd i ymgeiswyr sydd â chymwysterau cychwynnol is na’r rhai sy’n astudio am radd anrhydedd. Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio wyth modiwl arbennig mewn mathemateg ynghyd â modiwlau a ddewisir o blith modiwlau adrannau eraill. Yn eich ail flwyddyn, rhaid i’ch modiwlau gynnwys y rhan fwyaf o’r gwaith a ddisgrifir dan bennawd Blwyddyn 1. Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn dewis astudio detholiad o fodiwlau Rhan 2. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf caiff myfyrwyr sy’n pasio ar lefel ddigon da gyfle i drosglwyddo i’r cynllun gradd anrhydedd Mathemateg.