Ystadegaeth (Anrhydedd Cyfun)
3 blynedd
Ar y cynlluniau Ystadegaeth yn Aberystwyth byddwch yn trafod meysydd theori tebygolrwydd, casgliadau ystadegol ac ymchwil weithredol. Astudiaeth o ffenomenâu hap neu siawns yw tebygolrwydd, er mwyn pennu’r math o ymddygiad y gellir ei ddisgwyl gan system sy’n newid yn ôl hap. Mae casgliadau ystadegol yn defnyddio data arsylwi neu arbrofion i wahaniaethu rhwng amrywiadau hap ac amrywiadau y gellir eu priodoli i achosion penodol. Mae ymchwil weithredol yn cynnwys pynciau megis rhaglennu llinol a theori rhesi, sy’n codi mewn problemau diwydiannol a masnachol.
Ar gael ynghyd â:
BSc
- Addysg - GX33
- Cyfrifiadureg - GG34
- Daearyddiaeth Ffisegol - FG83
- Mathemateg Bur - GGC3
- Mathemateg Gymhwysol - GG13