Ffiseg


Ffiseg MPhys F303 - 4 blynedd; F300 - 3 blynedd
Ffiseg a Ffiseg y Planedau a’r Gofod MPhys F366; F364 - 3 blynedd
Gwyddor y Gofod a Roboteg BSc FH56 - 3 blynedd
Ffiseg (yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen) MPhys F301 - 5 mlynedd; F301 - 4 blynedd
Gradd Gyffredin mewn Ffiseg BSc F302 - 3 blynedd
Ffiseg (Graddau Anrhydedd Cyfun)
Ffiseg gydag Astudiaethau Busnes BSc F3N1 - 3 blynedd
Ffiseg gydag Iaith Ewropeaidd
BSc F3R1 - 4 blynedd, gyda Ffrangeg
BSc F3R2 - 4 blynedd, gydag Almaeneg
BSc F3R4 - 4 blynedd, gyda Sbaeneg
Ffiseg gydag Addysg BSc F3X3 - 3 blynedd

Ffiseg yw’r ymgais i ddeall natur y byd yr ydyn ni’n byw ynddo, ac y mae wedi rhoi golwg newydd syfrdanol i ni ar y modd y mae’r bydysawd yn gweithio. Mae mecaneg cwantwm, perthnasedd, ffiseg gronynnau, theori caos, seryddiaeth a gwyddor y gofod i gyd wedi chwyldroi ein gwybodaeth, ac maen nhw’n destunau ymchwil newydd ac anturus.

Ffiseg yw’r ‘peiriant’ sy’n gyrru technoleg fodern i raddau helaeth. Y mae datblygiadau mewn meysydd sydd mor wahanol â meddygaeth, cyfathrebu, cyfrifiaduron a thechnoleg y gofod yn aml wedi eu gwreiddio mewn ffiseg.

Bydd gradd mewn Ffiseg yn Aberystwyth yn cyflwyno myfyrwyr i’r wyddor fwyaf sylfaenol ac ehangaf ei chwmpas, a hynny mewn Sefydliad sydd â 120 mlynedd o hanes o ragoriaeth mewn dysgu ac ymchwil.

Mae myfyrwyr Ffiseg yn Aberystwyth yn mwynhaunaws anffurfiol, gyfeillgar mewn Sefydliad lle ceir ymrwymiad i ddysgu mewn grwpiau bach ac i ddysgu ar sail gwaith labordy. Rhoddir pwyslais mawr ar waith prosiect israddedig sy’n gysylltiedig â diddordebau ymchwil cyfredol.

Credwn fod ymchwil weithredol yn creu rhagoriaeth wrth ddysgu. Mae creadigrwydd a brwdfrydedd ein staff wedi ennyn iddynt enw da yn rhyngwladol mewn meysydd astudio pwysig sy’n denu cyllid sylweddol gan y llywodraeth a diwydiant. Mae ffisegwyr Aberystwyth yn rhan o ymchwil flaengar ym maes ffiseg cysawd yr haul, archwilio planedau, deunyddiau cymhleth, a dyfeisiadau lledddargludol.Cartref yr adran yw’r adeilad Gwyddorau Ffisegol pwrpasol, lle ceir labordai dysgu yn llawn cyfarpar, ystafelloedd darlithio, adnoddau cyfrifiadurol a llyfrgell arbennig. Ceir hefyd yn yr adeilad labordai ymchwil o’r radd flaenaf, labordy efelychu arwyneb planedau, adnoddau cyfrifiadur grymus, ac offer delweddu 3D. Bydd myfyrwyr yn aml yn defnyddio’r adnoddau hyn wrth baratoi eu prosiectau blwyddyn olaf.

Dyfernir nifer o ysgoloriaethau (gwerth hyd at £1,700 y flwyddyn) a gwobrau gan y Brifysgol a’r Sefydliad bob blwyddyn yn Aberystwyth. Mae’r rhain yn seiliedig ar berfformiad mewn arholiadau ysgoloriaeth, lefel A a phrifysgol.

Cynlluniau Gradd

Mae Aberystwyth yn cynnig cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl tair blynedd am BSc a phedair blynedd am MPhys. Anelir y radd Anrhydedd Sengl BSc at y rhai sydd eisiau addysg gytbwys, ddibynadwy mewn ffiseg. Mae’r cynllun Anrhydedd Sengl MPhys wedi ei anelu at y rhai sy’n gobeithio bod yn ffisegwyr proffesiynol mewn ymchwil academaidd neu ddiwydiant. Mae’n cyfateb yn llawn â chymwysterau ffiseg Ewropeaidd eraill. Tan ddiwedd yr ail flwyddyn mae modd trosglwyddo rhwng y ddau gynllun.

Mae’r cyrsiau ffiseg yn Aberystwyth yn cynnwys elfennau sydd wedi eu cynllunio yn benodol ifeithrin sgiliau datrys problemau a sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno - sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw a sgiliau sy’n hanfodol i yrfa lwyddiannus ym mhob maes bron, gan gynnwys ymchwil.

Gyrfaoedd

Mae graddedigion Ffiseg wedi eu paratoi’n dda am sawl math o yrfa, gan gynnwys astudio pellach (e.e. PhD, MSc, DiPAR). Y mae cyflogwyr yn chwilio fwy a mwy am raddedigion sy’n gallu trin rhifau, yn deall technoleg gwybodaeth, yn gallu datrys problemau a gweithio’n effeithiol mewn tîm. Wrth astudio am radd ffiseg caiff yr holl sgiliau hyn eu meithrin, yn ogystal â gwybodaeth drwyadl o’r wyddoniaeth a’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae myfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar o Aberystwyth bellach yn dilyn gyrfaoedd mor amrywiol â meteoroleg, cyfrifeg, cyfrifiadura, geoffiseg, ffiseg feddygol, dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion, ac ymchwil ym maes ffiseg deunyddiau a gwyddor y sêr, y gofod a’r planedau.

Gwaith Prosiect

Yn Aberystwyth fe fyddwch yn meithrin sgiliau beirniadol wrth arbrofi ac asesu data. Trwy waith prosiect cewch baratoi arbrofion sy’n defnyddio’r offer diweddaraf a modelu gan ddefnyddio cyfrifiaduron cymhleth a nerthol, a gall hyn gynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau ymchwil yn y Sefydliad. Arweiniodd sawl prosiect at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion ymchwil. Ymhlith y prosiectau diweddar y mae arsylwadau ar astroffiseg yr haul, holograffeg laser, celloedd solar organig ac arsylwi cyfrifiadurol ar glystyrau sêr.

Treulio Semester yn yr Arctig

Gall myfyrwyr blwyddyn olaf MPhys sy'n astudio Ffiseg a Ffiseg y Planedau a’r Gofod ddewis treulio yr ail semester ar ei hyd (Ionawr i Fai) yn astudio modiwlau ffiseg y gofod a ffiseg yr ionosffer a’r atmosffer ym mhrifysgol ryngwladol Norwy yn nhref Longyearbyen ar ynys Svalbard. Dyma gyfle unigryw i astudio ffiseg yng nghanol tirlun aruthrol mynyddoedd dan eu gorchudd o eira, awrorâu trawiadol, eirth gwynion, haul canol nos a rhewlifau.