Ffiseg (Graddau Anrhydedd Cyfun)
Mae graddau Anrhydedd Cyfun yn caniatáu i fyfyrwyr astudio pwnc arall gyda Ffiseg. Byddwch yn rhannu’ch amser yn gyfartal rhwng Ffiseg a’r adran sy’n cynnig y pwnc arall. Mantais y cynlluniau cyfun yw eu bod yn cynnig meysydd astudio eang a hyblyg, ac adlewyrchir yr hyblygrwydd hwnnw yn y math o waith y gellir ei wneud ar ôl graddio.