Gradd Gyffredin mewn Ffiseg


BSc F302 - 3 blynedd

Cyflwyniad i ffiseg i fyfyrwyr nad ydynt yn dymuno dilyn gyrfa ym maes ffiseg bur yw’r radd hon – er enghraifft, rhai sy’n anelu am yrfa mewn newyddiaduraeth wyddonol. Nid yw gofynion y cwrs mor drwm ac nid yw’n cyrraedd lefel anrhydedd. Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys modiwlau rhagarweiniol sy’n astudio grymoedd ffisegol, dulliau damcaniaethol, ffiseg mater, trydan, magneteg, osgiliadau a thonnau, a ffiseg labordy. Seilir yr ail a’r drydedd flwyddyn ar ystod o bynciau o ddwy flynedd gyntaf y cynllun anrhydedd, er bod y dulliau asesu yn wahanol.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: