Ffiseg (yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen)


F301 - 4 blynedd

Gradd Ffiseg (yn cynnwys blwyddyn Sylfaen) yn Aberystwyth

Gradd Ffiseg (yn cynnwys blwyddyn Sylfaen) – Gradd BSc Anrhydedd 4 mlynedd (F301)

Gradd Ffiseg (yn cynnwys blwyddyn Sylfaen)

Cynlluniwyd y cynllun gradd anrhydedd ‘Ffiseg yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen’ hon i gynnig llwybr i addysg uwch ym meysydd Ffiseg neu Astroffiseg i fyfyrwyr sydd:

yn gymwys i symud ymlaen i addysg uwch, ond heb gymwysterau digonol mewn ffiseg a mathemateg

    NEU

    sydd heb y cefndir addysgiadol traddodiadol i gael mynediad i addysg uwch

   NEU

    nad ydynt hyd yma wedi cyflawni eu potensial academaidd yn llawn.

Beth fydda i’n ei astudio?

Bydd Myfyrwyr y cynllun gradd Ffiseg yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen yn cychwyn drwy wneud blwyddyn sylfaen a ddysgir gan staff yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg ar y prif Gampws ym Mhenglais. Mae’n cynnwys rhaglen cwbl integredig o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol, seminarau a sesiynau tiwtorial mewn ffiseg, mathemateg, cyfrifiadureg, technegau labordy a sgiliau astudio. Mae’r cyfuniad hwn yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth a sgiliau sylfaenol mewn ffiseg a gwyddorau cysylltiedig. Mae’r dosbarthiadau gan amlaf yn cynnwys tua 20 o fyfyrwyr, felly mae yna ddigon o gyfleoedd i gael sylw unigol gan staff.

Ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gall myfyrwyr gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r cynlluniau gradd tair blynedd a gynigir gan y Sefydliad (gweler y rhestr isod). Gallant hefyd ddilyn rhaglenni gradd cymeradwy mewn adrannau eraill.

Manylion Strwythur y Cwrs

Nodweddion Allweddol

   Cwrs 4 blynedd, amser llawn.

   Hyfforddiant eang mewn Ffiseg.

Ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn trosglwyddo i un o’n rhaglenni BSc (anrhydedd) a enwir (gweler y rhestr lawn gyferbyn).

Datblygu sgiliau technegol a sgiliau trosglwyddadwy.

 Llwyth asesu amrywiol ond cytbwys drwy gydol y flwyddyn.

    Staff brwdfrydig a chefnogol.

   Cyfle i astudio yn un o ganolfannau ymchwil ffiseg mwyaf Cymru.

   Lleoliad naturiol trawiadol ac amgylchedd arfordirol dilychwin

Gofynion Mynediad

Bydd mynediad i Ffiseg yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen yn cael ei benderfynu ar sail unigol yn dilyn cyfweliad gyda’n tiwtoriaid mynediad.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Asesir y cwrs hwn drwy  arholiad ac asesiadau yn ystod y tymor, a all gynnwys traethodau, adroddiadau labordy, seminarau, adolygiadau o destunau perthnasol, trafodaethau a phroblemau i’w datrys.

Ai dyma’r cwrs i mi?

Mae myfyrwyr y cwrs Ffiseg yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Maent yn cynnwys myfyrwyr aeddfed a chanddynt amrywiaeth eang o brofiad blaenorol, yn ogystal â myfyrwyr tramor. Gall y cwrs recriwtio myfyrwyr sydd wedi tangyflawni yn eu hastudiaethau lefel A sy’n cynnwys Ffiseg a Mathemateg, ond dim ond mewn achosion lle mae yna reswm i ddisgwyl cynnydd mewn perfformiad.

Mae profiad yn dangos bod myfyrwyr sy’n cychwyn gyda’r cwrs Ffiseg yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen yn gallu mynd ymlaen i gael y cymwysterau uchaf yn eu cynllun gradd dewisedig. Mae rhai wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd mewn ymchwil gwyddonol.

Cynlluniau sydd ar gael ar ôl cyflawni’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus

Ffiseg - MPhys (F303), BSc (F300)

Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod - MPhys (F366), BSc (F364)

Astroffiseg - MPhys (F511), BSc (F510)

Gwyddoniaeth y Gofod a Roboteg - MPhys (FH5P), BSc (FH56)

Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol - MMath (F341), BSc (F340)

Mae’n bosib y bydd cynlluniau cymeradwy eraill ar gael.

Blwyddyn Sylfaen Ffiseg: Blwyddyn 1

Mae’r Flwyddyn Sylfaen Ffiseg yn gosod sylfeini’r pynciau sy’n hanfodol ar gyfer astudio Ffiseg yn y Brifysgol:

  • Grymoedd Ffisegol;
  • Ffiseg Mater;
  • Ffiseg Labordy;
  • Dulliau Mathemategol ar gyfer Ffisegwyr;
  • Osgiliadau a Thonnau, Trydan a Magneteg.

Gradd BSc Anrhydedd mewn Ffiseg (yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen): Blynyddoedd 2-4                               

Yn ystod blynyddoedd 2-4 mae’r Radd yn symud ymlaen i drafod:

  • Algebra a Chalcwlws;                                         
  • Dynameg a Pherthynoledd;
  • Y Bydysawd Cwantwm;
  • Ffiseg Cyfrifiadurol ac Arbrofol;
  • Ffiseg Golau.



Yn ogystal ag ystod o Fodiwlau Dewis ardderchog i ddatblygu’ch diddordeb eich hun wrth i’r cwrs symud ymlaen. Gyda’i gilydd mae’r Modiwlau Craidd a’r Modiwlau Dewis yn gosod y sylfaen ar gyfer eich Prosiect Unigol - elfen ganolog o’r flwyddyn olaf, ac uchafbwynt y radd i lawer o fyfyrwyr. Ar ddiwedd blwyddyn 4, gellir dewis gwneud pumed flwyddyn i astudio tuag at gymhwyster MPhys.

Cyfleodd Gyrfaol a Chyfleoedd Astudio ar ôl Graddio

Mae graddedigion Ffiseg Aberystwyth yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd ym meysydd Masnach, Addysg, a nifer o swyddi eraill technegol sy’n ymwneud â Ffiseg yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Maent oll yn gallu elwa ar ddealltwriaeth ardderchog o sylfaeni Ffiseg, hanes o waith prosiect personol a datrys problemau, a phrofiad o weithio mewn amgylchedd o ragoriaeth arloesol.

Gwybodaeth am y Cynllun Astudio

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn cyfeirio at y cynllun(iau) astudio canlynol

F301

Manylion Cyswllt

Dr Martin Wilding
Tiwtor Mynediad
Y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
Prifysgol Aberystwyth
Penglais
Aberystwyth
SY23 3BZ
Cymru
Ffôn: 01970 622 816 Ffacs: 01970 622 826 E-bost:
mbw@aber.ac.uk Gwefan yr Adran

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol