Ffiseg a Ffiseg y Planedau a’r Gofod
MPhys F366; F364 - 3 blynedd
Mae gan Aberystwyth hanes hir o arbenigedd mewn ffiseg y gofod a’r planedau, a hi yw’r unig adran prifysgol ym Mhrydain i astudio’r trywydd ynni cyfan o atmosffer yr Haul i atmosffer y Ddaear.
Mae’r cynllun gradd hwn yn darparu craidd o ffiseg sylfaenol a golwg fanwl ar ffiseg cysawd yr haul. I roi’r ail beth yn ei gyd-destun, y mae’r radd hefyd yn cynnwys arolwg o wyddor astronomeg fodern (gan gynnwys astronomeg y sêr a’r galaethau, astroffiseg a chosmoleg). Y mae craidd y prif lif ffiseg yn sicrhau hyblygrwydd wrth astudio ymhellach neu mewn gwaith ar ôl graddio ac yn rhoi cefndir angenrheidiol ar gyfer modiwlau arbenigol. Neilltuir tua thraean y cynllun gradd i fodiwlau arbenigol yn ffiseg y gofod a’r planedau, a dwy ran o dair i’r rhai ffiseg.
Y mae’r radd yn cynnwys y meysydd canlynol: ffurfiad ac esblygiad cysawd yr haul, bydoedd cewri-nwy a thir, tu mewn ac arwynebedd planedau, atmosfferau planedol, yr Haul fel seren, comedau, cewri cochion, corachod gwynion, sêr niwtron, tyllau duon, galeithau, cwasarau, gwynt yr haul a chosmoleg.