Ffiseg gydag Astudiaethau Busnes


BSc F3N1 - 3 blynedd

Mae hwn yn gynllun gradd anrhydedd sengl a gynlluniwyd i gwrdd ag anghenion y ffisegwyr hynny a all fod yn ystyried gyrfa mewn rheoli diwydiannol neu yn y maes masnachol yn gyffredinol. Craidd o fodiwlau ffiseg sylfaenol (wyth modiwl) yw dwy ran o dair o’r cwrs, ac mae’r traean sy’n weddill yn cynnwys modiwlau mewn cyfrifeg ac economeg. Gallwch ddewis pa fodiwlau ffiseg ychwanegol i’w hastudio ar ben y modiwlau craidd ffiseg hanfodol. O ran astudiaethau busnes byddwch yn dilyn modiwlau sy’n ymwneud â phynciau’n cynnwys: dyrannu adnoddau a phrosesau marchnata, defnyddwyr, cynnyrch a phrisio, cyfrifeg gyllidol, economeg y cwmni, amgylchedd busnes, rheoli marchnata, cyfrifeg a chyllid rheoli, strategaeth marchnata a strategaeth busnes.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol