Ffiseg gydag Addysg
BSc F3X3 - 3 blynedd
Gall myfyrwyr sydd â’u bryd ar yrfa mewn addysg, neu sydd am weithio ym maes cyfathrebu gwyddonol, gyfuno eu diddordebau yn y cynllun gradd hwn. Ffiseg yw dwy ran o dair y cwrs a’r traean sy’n weddill yn Addysg. O ran yr ochr Addysg ceir cryn ryddid i ddewis, a gall myfyrwyr ddilyn modiwlau sy’n cynnwys: addysg a chymdeithas gyfoes, system addysg Prydain, theori’r cyfryngau, y ddeuryw ac addysg, addysg amlddiwylliannol, a seicoleg addysg. Mae’r radd yn baratoad ardderchog i’r Ddiploma Addysg i Raddedigion.