BSc F3R1 - 4 blynedd, gyda Ffrangeg
BSc F3R2 - 4 blynedd, gydag Almaeneg
BSc F3R4 - 4 blynedd, gyda Sbaeneg
Gall pobl Ewrop bellach symud yn rhwydd i fyw a gweithio yng ngwahanol wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Gall myfyrwyr ffiseg sydd am fanteisio ar y rhyddid hwn sicrhau’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol drwy gyfrwng cynlluniau gradd pedair blynedd yn Aberystwyth. Yn fras, ffiseg yw dwy ran o dair y radd ac iaith Ewropeaidd yw traean arall pob un o’r cynlluniau. Gallwch astudio modiwlau dewisol ar ben y modiwlau gorfodol mewn ffiseg ac iaith lafar, ysgrifenedig a busnes. Treulir trydedd flwyddyn y cwrs dramor er mwyn i chi gael profiad o ddiwylliant brodorol yr iaith honno. Yn ystod eich blwyddyn dramor, gallwch barhau i astudio ffiseg mewn sefydliadau yn Ewrop, neu fynd i weithio mewn labordy neu weithle diwydiannol/technegol.
Gwybodaeth y Cynllun Astudio
Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon: Dr Martin Wilding,
Tiwtor Derbyn,
Sefydliad Mathemateg a Ffiseg,
Ffôn: (01970) 622816 Ffacs: (01970) 62826 Ebost: daj@aber.ac.uk