Gwyddor y Gofod a Roboteg


BSc FH56 - 3 blynedd
MPhys FH5P - 4 mlynedd

Mae anturio a fforio yng nghysawd yr haul wedi bod yn un o lwyddiannau sylweddol oes y gofod. Y mae’r rhan fwyaf o’r llongau gofod a’r lloerennau naill ai wedi eu rheoli’n llwyr o’r Ddaear neu gan raglenni ar fwrdd y llong. Bydd ar deithiau yn y dyfodol, yn enwedig cerbydau sy’n glanio ar blaned Mawrth a phlanedau a lleuadau ymhellach i ffwrdd, angen y gallu i weithredu’n annibynnol ar unrhyw reolaeth o’r ddaear ac addasu eu hymddygiad i’r amodau o’u hamgylch.

Y mae’r cwrs hwn yn cyfuno ein harbenigedd am gysawd yr haul a ffiseg y gofod ag arbenigedd yr Adran Gyfrifiadureg ym maes roboteg y gofod a deallusrwydd artiffisial, er mwyn ystyried her defnyddio robotiaid i archwilio cysawd yr haul. Bydd y cynllun gradd newydd hwn, un o ychydig gyrsiau o’i fath yn unig yn y DU, yn dysgu sylfeini maes archwilio’r gofod ichi a’ch arfogi â sgiliau i gwrdd â gofynion a her y diwydiant gofod, yn ogystal â chynlluniau a datblygiadau ffiseg y gofod a theithiau astroffisegol yn y dyfodol.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol