Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Yr Adran Seicoleg


Maes astudio Seicoleg yw’r meddwl dynol ac ymddygiad pobl. Mae datblygiad normal ac abnormal pobl, salwch meddyliol ac anhwylder seicolegol, rhyngweithio cymdeithasol a rhyngbersonol, y berthynas rhwng personoliaeth a diwylliant, i gyd yn agweddau ar gymhlethdodau diddorol y meddyliau, y gweithredoedd a’r rhyngweithio dynol y mae seicolegwyr yn eu hastudio.Myfyrwyr Seicoleg mewn darlith

Yn Aberystwyth, yr Adran Seicoleg yw’r adran a sefydlwyd yn fwyaf diweddar. Y mae wedi tyfu a dod yn boblogaidd yn gyflym iawn gan lwyddo ymhell y tu hwnt i’n disgwyliadau. O ganlyniad i hyn, yn 2009, am y tro cyntaf, lansiodd yr adran raglen radd Anrhydedd Sengl mewn Seicoleg i redeg ochr yn ochr â’i phortffolio o raglenni Anrhydedd Cyfun sy’n cynyddu’n gyflym. Mae’r Adran yn parhau i ddatblygu’r portffolio ac i greu cysylltiadau dysgu ac ymchwil o fewn i’r Brifysgol ac yn y byd ehangach.

Y Rhaglenni Gradd

Yn Aberystwyth, gallwch astudio Seicoleg fel pwnc Anrhydedd Sengl, neu yn hanner rhaglen Anrhydedd Cyfun, a’u gyfuno â disgyblaethau yn amrywio o Geneteg i Wleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’r rhain yn gynlluniau gradd lled newydd, felly nid ydynt hyd yn hyn wedi eu hachredu gan y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig er mwyn symud ymlaen ar unwaith i’w cymhwysterau uwchraddedig cydnabyddedig. Ond, bydd sawl llwybr arall ar gyfer astudio uwchraddedig ar agor i raddedigion Seicoleg, gan gynnwys cyrsiau trosi achrededig y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig sy’n arwain at Sylfaen Graddedig ar gyfer Cofrestru.

Mae’r rhain yn gynlluniau gradd lled newydd, felly nid ydynt hyd yn hyn wedi eu hachredu gan y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig er mwyn symud ymlaen ar unwaith i’w cymhwysterau uwchraddedig cydnabyddedig. Ond, bydd sawl llwybr arall ar gyfer astudio uwchraddedig ar agor i raddedigion Seicoleg, gan gynnwys cyrsiau trosi achrededig y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig sy’n arwain at Sylfaen Graddedig ar gyfer Cofrestru.

Dysgu a Chefnogaeth

Mae Seicoleg yn ddisgyblaeth a seilir ar dystiolaeth ac fe fyddwch yn datblygu nifer o sgiliau archwiliadol a throsglwyddadwy o dan arweiniad darlithwyr sydd yn weithgar mewn gwaith ymchwil. Trwy gydol eich cwrs gradd cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau/tiwtorialau a sesiynau ymarferol a fydd yn cynnwys gwaith prosiect ac ymarferion datrys problemau. Mae staff yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu cyfoes, er enghraifft dysgu ar lein a dysgu seiliedig ar ddatrys problemau er mwyn cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth y myfywyr.

Cefnogir yr holl fodiwlau gan adnoddau electronig a gynlluniwyd i wella dysgu hunan-gyfarwyddol. Yn ystod eich astudiaethau bydd gennych hawl i fanteisio ar bob math o ddeunydd dysgu, sy’n cynnwys adnoddau cynhwysfawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a saif nesaf at y campws. Asesir trwy arholiadau ac asesu parhaus, gan roi cyfle i chi ddatblygu sgiliau newydd a dangos eich cynnydd academaidd.

Anrhydedd Sengl:

Gradd Seicoleg

Anrhydedd Gyfun:

Seicoleg ac Addysg CX83
Seicoleg a Llenyddiaeth Saesneg CQ83
Seicoleg a Marchnata CN85
Seicoleg a Throseddeg CM89