Graddau Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth


Gradd Seicoleg (800)

Gradd Seicoleg

Yr ymennydd dynol yw’r strwythur naturiol mwyaf cymhleth yn y bydysawd y gwyddom amdano. Ym maes Seicoleg, rydyn ni’n ceisio esbonio sut y mae’n gweithio. Astudiaeth ddadansoddol yw Seicoleg o gymhlethdodau ymddygiad pobl mewn ymgais i ddeall pam yr ydyn ni’n ymddwyn fel y gwnawn: pa ran sydd gan ein genynnau, ein hamgylchedd teuluol, ein cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol ac yn y blaen. Mae myfyrwyr Seicoleg yn chwilio am atebion ar sail tystiolaeth i’r cwestiynau hyn.

O ddechrau eich gradd cewch eich cyflwyno i’r syniadau, y damcaniaethau a’r canfyddiadau ymchwil allweddol sydd wedi dylanwadu ar seicoleg: seicoleg gymdeithasol, damcaniaeth gwahaniaethau unigol, bioseicoleg ac yn y blaen. Byddwch yn dechrau dysgu dulliau ymchwil seicolegol, fel y gallwch gyflawni eich archwiliadau eich hun i ymddygiad pobl.

Gradd Seicoleg Blwyddyn 1

Nid ydym yn tybio bod gennych wybodaeth yn flaenorol, felly mae Blwyddyn 1 yn gosod sylfaen i’ch astudiaethau yn y dyfodol, ac yn rhoi rhagarweiniad i gysyniadau hanfodol Seicoleg. Yn ogystal â hyn, cewch eich cyflwyno i ddulliau ymchwil seicolegol a’u dehongliadau yn rhan o’r modiwl Applications of Psychology, a fydd yn eich cynorthwyo i ddeall sut y mae canlyniadau ymchwil seicolegol yn cael eu defnyddio, mewn disgyblaethau mor amrywiol â Marchnata a Gofal Iechyd.

Mae pynciau craidd blwyddyn un yn cynnwys:

  • Social and developmental psychology
  • Biological and cognitive psychology
  • Individual differences psychology
  • Applications of psychology

Myfyrwraig Seicoleg yn ei darlith

Blynyddoedd 2 a 3 Gradd mewn Seicoleg

Ym mlynyddoedd 2 a 3 byddwch yn ailymweld â’r pynciau a gyflwynwyd yn eich blwyddyn gyntaf, ond y tro hwn byddwch yn astudio ar lefel uwch (Anrhydedd) ac fe fydd eich gallu i ddeall cysyniadau cymhleth yn cael ei brofi i’r eithaf. Byddwch yn dechrau defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol mwy cymhleth i ymdrin ag ystadegau; byddwch yn dysgu dulliau ymchwil ansoddol aeddfetach a dulliau mwy soffistigedig o ddehongli data.

Wrth i’ch hyder a’ch cymhwysedd gynyddu, cewch fwy o gyfle i ddewis beth i’w astudio. Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd Seicoleg byddwch yn gweithio gydag arolygydd penodol a fydd yn eich cynorthwyo i gynllunio a gweithredu prosiect eich blwyddyn olaf, lle byddwch yn cynhyrchu adroddiad prosiect safonol a phoster ymchwil mewn maes o’ch dewis eich hun.

Charlotte Hayman - Gradd Seicoleg ac Marchnata Charlotte Hayman - Gradd Seicoleg ac Marchnata
Loughton, Essex
The department is fantastic and really approachable. The staff are always there to help. The course is fantastic because it has a great range of modules. I chose to study at Aberystwyth because I came here on an Open Day and fell in love with the place I enjoyed being by the sea and thought that it was absolutely beautiful. I would recommend Aberystwyth, because it is so charming. And once you get here you just can’t get out!

Gradd Seicoleg – Enghraifft o Fodiwl - Enghraifft o Fodiwl

PS11100 - Introduction to Psychology: Concepts and Applications

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i seicoleg i’r rhai nad ydynt yn arbenigwyr, heb dybio bod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am y maes. Y mae’n rhoi i fyfyrwyr ddarlun o esblygiad seicoleg fel disgyblaeth gydag ystod amrywiol iawn o gymwysiadau. Caiff datblygiad y pwnc ei nodi a’i osod yng nghyd-destun gofynion ehangach newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, gan ddangos sut y cymhwysir damcaniaethau sylfaenol mewn meysydd fel seicoleg iechyd a gwaith, neu seicoleg fforensig a thraws-ddiwylliannol.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol