Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Rhagymadrodd
Addysgu a Dysgu
Yn ogystal â darlithoedd a seminarau, mae’r cwrs yn cynnwys nifer o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr megis prosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a dosbarthiadau tiwtorial. Ceir llawer o wersi mewn labordai a byddwch yn dod yn fedrus yn defnyddio offer gwyddonol ar gyfer profion ffitrwydd soffistigedig a dadansoddi symudiad. Mae adnoddau electronig ar gyfer pob modiwl fydd yn gymorth i chi wrth astudio y tu allan i’r dosbarth. Caiff sgiliau allweddol eu plethu’n ofalus yn y cwricwlwm i ddatblygu eich gallu i wneud cyflwyniadau, dadansoddi gwybodaeth, cynhyrchu adroddiadau, ysgrifennu yn academaidd a gweithio mewn grwpiau. Asesir ar gyfuniad o waith cwrs, adroddiadau ac arholiadau.
Adnoddau
Yn ôl y disgwyl, mae gan yr Adran gyfleusterau bendigedig, oll wedi eu cynllunio ar gyfer myfyrwyr cyfoes. Mae labordai arbenigol o’r radd flaenaf yn eich galluogi i gael dealltwriaeth rwyddach o theori ac ymarfer Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Dyna pam fod gan yr Adran yma yn Aberystwyth offer helaeth i chi ei ddefnyddio. Mae ein labordai yn cynnwys...
- labordy biomecaneg yn cynnwys fideo digidol cyfrifiadurol yn galluogi dadansoddiad soffistigedig o symudiadau ac mae dynamometrau yn fodd i fesur grymoedd
- labordy ffisioleg gyda dadansoddwyr cardiofasgwlaidd, anadlu a metaboledd yn monitro’r corff wrth iddo ymarfer
- Mewn Seicoleg gellir astudio straen drwy amseru ymateb, monitro curiad calon ac anadl
- Mae siambr amgylcheddau dynol yn galluogi astudiaeth arbennig o ymateb mewn amgylcheddau poeth, oer neu laith
Mae gennym ddigonedd o gyfleusterau eraill sy’n hybu gradd gytbwys:
- Mae gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol gyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell ffitrwydd, caeau chwarae helaeth, pwll nofio, neuadd chwaraeon, wal ddringo a chae pob tywydd.
- Mae llawer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn cynnig chwaraeon cystadleuol a gweithgareddau hamdden
- Mae nifer o lyfrgelloedd y Brifysgol yn cynnwys casgliad eang o lyfrau a chyfnodolion, ac mae cyfleusterau cyflawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gerllaw.
- Mae sustemau TG nerthol yn darparu’r holl feddalwedd sydd angen ac fe all myfyrwyr ddefnyddio dros 900 o gyfrifiaduron o amgylch y campws, yn cynnwys neuaddau preswyl.
Graddau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Rhydian Page
BA Gwyddor Chwaraeon
Casnewydd“Dewisais ddod i Aberystwyth i astudio oherwydd roeddwn i am aros yng Nghymru. Hefyd, roeddwn wedi bod i’r dre o’r blaen ac roeddwn am ddod yn ôl gan fy mod yn hoffi’r ardal, ac yn hoffi’r Brifysgol. Roedd hi’n hawdd setlo i mewn. Am fod y dre’n eithaf bach, mae pawb yn eithaf cymdeithasol, ac mae pawb yn dod i nabod ei gilydd. Mae’n adran arbennig o dda, ac mae safon y dysgu’n uchel. Mae’r darlithwyr yn dda wrth eu gwaith a phob tro’n barod i helpu. Mae’r llyfrgell a’r cyfrifiaduron yn dda hefyd, mae llawer o’r llyfrau angenrheidiol yn y llyfrgell, mae’n eithaf mawr, ac mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agos hefyd. Felly mae yma lawer o gyfleoedd i astudio. Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn dda. Dwi’n aelod o’r gampfa ac yn ymarfer corff yn gyson yn yr ardal. Mae’r bywyd cymdeithasol yn dda, mae llawer o bethe i’w gwneud, mae yma ddigon o lefydd i fynd iddynt gyda’r nos, ac mae pawb yn hoffi bod yng nghwmni ei gilydd. Byddwn i’n bendant yn argymell Aberystwyth i eraill, mae ymdeimlad o gymdeithas yma, mae pawb yn ddymunol, a dwi’n hoffi bod yma!”