Rhagymadrodd
Gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff [C600]
Mae’r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Aberystwyth yn cynnig rhaglen o addysg gadarn mewn gwyddoniaeth ynghyd â chymhwyso’r wybodaeth i sefyllfaoedd ymarferol.
Byddwch yn astudio seiliau seicolegol, ffisiolegol a mecanyddol chwaraeon ac ymarfer corff ac yn dod i ddeall eu pwysigrwydd ym mhob sefyllfa, o raglen hyfforddi soffistigedig y cystadleuydd ym myd chwaraeon i’r unigolyn sydd am ymarfer er mwyn cadw’n iach.
Strwythur y Radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Patrwm modiwlar sydd i’r radd ac mae’n cynnwys tair thema. Y thema gyntaf yw’r pynciau craidd gwyddonol, sef seicoleg, ffisioleg a biomecaneg. Byddwch yn astudio’r rhain yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, ac yn y flwyddyn olaf cewch ddewis o blith nifer o fodiwlau arbenigol.
Mae’r ail thema’n ymwneud ag astudiaethau cymhwysol. Yn y modiwlau hyn byddwch yn dilyn seminarau, cwrdd â siaradwyr gwadd, yn dilyn cyrsiau byr o bythefnos ac, yn bwysicach oll, yn datblygu dealltwriaeth ddofn o’r pwnc a ddewisir gennych. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn pêl-droed, er enghraifft, gallwch ddewis hyn a defnyddio’ch gwybodaeth i greu portffolio ar Wyddoniaeth Pêl-droed. Neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn ymarfer corff a heneiddio, neu ddosbarthiadau stiwdio, neu bêl-rwyd. Chi biau’r dewis.
Ymchwil yw’r drydedd thema. Byddwch yn dilyn modiwlau mewn dulliau ymchwil, trin a dadansoddi data, ac yn gwneud prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf.
Pam dewis Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda ni?
- Gradd newydd a blaengar
- Canolbwyntio ar seiliau gwyddonol chwaraeon ac ymarfer corff
- Gwaith ymarferol mewn labordai ag offer helaeth
- Profiad gwaith a chymwysterau i’ch paratoi am yrfa
- Dulliau cyfoes o ddysgu ac addysgu
- Cymorth i ddatblygu sgiliau allweddol
- Cyfleusterau gwych ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
Gyrfaoedd
Mae gradd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn agor dewis helaeth o bosibiliadau. Ceir cyfleoedd gyda sefydliadau iechyd masnachol, mewn chwaraeon elît, yn hyrwyddo ymarfer corff ac yn athrawon, ar ôl gwneud diploma addysg i raddedigion. Mae datblygu meddwl gwyddonol a dadansoddol, ynghyd â sgiliau gwaith tîm, yn golygu fod gan raddedigion fantais wrth fynd i yrfaoedd eraill, megis rheoli, gwerthu neu farchnata. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd i yrfaoedd eraill heblaw chwaraeon, ac mae’r radd yn ffordd arbennig o ddiddorol a chyffrous i astudio gwyddoniaeth ac ennill BSc.
Mae datblygu gyrfa yn rhan o’r cwrs gydol y tair blynedd. Mae pob myfyriwr yn cwblhau modiwl profiad gwaith ac yn y ffrwd Astudiaethau Cymhwysol gallwch ddewis astudio tuag at ddau gymhwyster o werth galwedigaethol o blith cymwysterau hyfforddi, ffitrwydd a stiwdio, cymorth cyntaf, achub bywydau ac ati. Os nad oes gennych gymwysterau i gael lle ar gwrs tair blynedd gallech ystyried y cynllun Gwyddorau Bywyd [C990]. Gall cwblhau’r cynllun hwnnw’n llwyddiannus roi mynediad i’r cynllun gradd tair blynedd.