Cyfryngau Digidol a Chyfathrebu


P300 - 3 blynedd

Mae’r cynllun gradd blaengar, heriol ac amrywiol hwn yn rhoi myfyrwyr ar flaen y gad o ran y datblygiadau a’r trafodaethau ym myd y cyfryngau digidol a chyfathrebu. A ninnau ar gychwyn yr oes ddigidol, â thwf cynyddol mewn rhyngweithio cyfryngol cydgyfeiriol ar sawl llwyfan, codir cwestiynau pwysig am oblygiadau cymdeithasegol y ffaith ein bod bellach yn cynhyrchu yn ogystal â defnyddio cynnwys cyfryngol.

Mae YouTube, MySpace, Bebo a Facebook yn newid gwedd rhwydweithio cymdeithasol; mae technolegau digidol yn ein galluogi i gyhoeddi ein gwaith ein hunain ar gyfer cymuned fyd-eang ar-lein; yr ydym yn mynd â’n ‘bywydau electronig’ gyda ni i bobman; yr ydym yn creu bydoedd cyfochrog megis rhai Second Life yn y byd seiber, ac mae camerâu digidol yn ein gwylio gydol yr amser. Dyma’r realiti newydd, a nod y radd hon yw archwilio ac ymchwilio i’r materion sydd wrth wraidd y realiti hon.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n benodol ac yn neilltuol ar gyfryngau digidol, ac mae’n cynnig dull academaidd cadarn o ymchwilio i’r materion allweddol yn y maes, yn ogystal ag elfen ymarferol. Mae’r radd hon yn unigryw yn y modd y mae’n eich galluogi i gyfuno’r traddodiadol â’r newydd, gan ddatblygu dealltwriaeth ddeinamig o natur y rhyngweithio rhwng testunau, cynulleidfaoedd a chynhyrchwyr yn y cyfryngau. Drwy weithio mewn modd rhyngddisgyblaethol cyffrous, byddwch yn cael profiad o nifer o draddodiadau academaidd gan gynnwys astudiaethau cyfathrebu a chyfryngau,cymdeithaseg, seicoleg, astudiaethau diwylliannol (gan gynnwys diwylliannau digidol a gweledol), hanes, athroniaeth, ieithyddiaeth a marchnata.

Mae gan ein Hadran adnoddau gwych, gan gynnwys labordy cyfrifiaduron newydd sbon a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gweithio â’r cyfryngau digidol, ac ystafelloedd cynhyrchu a golygu digidol. Mae ein gwefan nodedig Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu (MCS) hyd yn oed yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyhoeddi eu gwaith i gynulleidfa fyd-eang. Adeilad trawiadol Parry-Williams yw ein cartref, ac yma hefyd, ar y llawr gwaelod, y mae canolfan BBC Cymru/Wales yn y Canolbarth, ac y mae gennym hefyd gysylltiadau cadarn â chwmnïau cynhyrchu blaengar. Estynnwn wahoddiad i chi fod yn rhan o’r profiad egnïol hwn!

Mewn byd cyfryngol deinamig sy’n newid yn gyflym, bydd myfyrwyr sy’n dilyn y radd hon – sy’n llawn menter, dychymyg a gwreiddioldeb - yn magu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd arnynt eu hangen er mwyn gallu arwain y blaen yn y diwydiant i’rdyfodol.

Strwythur a Chynnwys

Cynlluniwyd y radd hon i sicrhau eich bod yn cael sylfaen ddamcaniaethol gadarn trwy gyfrwng y modiwlau craidd, a hefyd yn cael cyfle i arbenigo mewn meysydd a dulliau sydd o ddiddordeb penodol i chi. Dyma rai o’r modiwlau y gallwch eu hastudio (os ydynt ar gael):

Blwyddyn 1
Introduction to Media Studies; Introduction to Communication Studies; Introduction to (Digital) Film & TV Production; On the Web; Studying Film; Studying Television.

Blwyddyn 2
Digital Culture; Mediated Communication; TV & Society; Digital Journalism; Advertising; Reading the Visual; Website Design Issues; Radio Studies; Studio Production; Broadcasting History.

Blwyddyn 3
Surveillance Society; Digital Studio; Digital Imaging; Bent Screens; Media in Wales; Children & the Media; Practical Radio Production; Visual Semiotics; Investigating Audiences; Traethawd Estynedig (astudiaeth fanwl o’ch dewis chi).

Asesu a Dysgu

Cewch eich asesu drwy gyfrwng amrywiaeth eang o ddulliau diddorol, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyno syniadau a ‘chynyrchiadau’ digidol/ar-lein. Mae’r radd hon yn rhoi mwy o bwyslais ar asesu parhaus nag ar arholiadau ysgrifenedig traddodiadol, gan adlewyrchu natur flaengar cynnwys ein modiwlau. Dysgir ein modiwlau trwy gyfrwng gweithdai-ddarlithoedd yn bennaf, a rhoddir pwyslais ar ryngweithio â’r myfyrwyr ac ymwneud yn ymarferol â’r deunyddiau sy’n cael eu trafod.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol