Drama ac Astudiaethau Theatr
W400 - 3 blyneddW401 - BSc 3 blynedd
Mae’r Adran yn falch o’i pherthynas brysur, sydd wedi’i hen sefydlu, â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, megis y BBC, S4C, AVID, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Cynlluniwyd y cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr yn ofalus i sicrhau cydbwysedd rhwng profiadau academaidd ac ymarferol a datblygiad cyson sgiliau deallusol, perfformio a thechnegol ein myfyrwyr. Yn ystod y flwyddyn gyntaf astudir nifer o odiwlau rhagarweiniol sy’n cyfuno dadansoddi testunol a hanes y theatr â gwaith ymarferol – cynllunio, technegol a pherfformio – sy’n cael ei ddysgu ar y cyd â chydweithwyr ar y cynllun gradd Senograffeg a Dylunio Theatr.
Yn yr ail flwyddyn edrychir yn fanylach ar yr achlysur theatrig, gan ddechrau â chraidd o fodiwlau dadansoddol – gan gynnwys dadansoddi testunau a pherfformiadau, theatr mewn cymdeithas a drama Ewropeaidd. Byddwch yn dewis wedyn o lith cyfres o fodiwlau sy’n ystyried cynhyrchu a chynllunio theatrig, gan gynnwys actio, cyfarwyddo, goleuo, sain a chynllunio setiau a gwisgoedd. Dechreuir y drydedd flwyddyn â semester o waith ymarferol dwys, lle bydd sgiliau dadansoddol ac ymarferol yn cael eu cyfuno a’u profi’n greadigol drwy gyfrwng gwaith cynhyrchu ar raddfa eang. Bydd y profiad hwn yn hyrwyddo ac yn atgyfnerthu’r modd y bydd myfyrwyr yn ymdrin â modiwlau dewisol arbenigol – modiwlau yn trafod theatr mewn addysg, Shakespeare mewn ysgolion, ysgrifennu creadigol i’r llwyfan, drama gyfoes ym Mhrydain ac Iwerddon, theatr a rhywedd, ac yn y blaen.
Adnoddau
Mae gennym gyfleusterau ardderchog i waith ymarferol, gan gynnwys pedwar gofod theatr gydag adnoddau rhagorol i gynulleidfa o tua 100 o bobl yr un. Yr ydym hefyd yn cynnal perfformiadau sylweddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae gennym nifer o ystafelloedd ymarfer sy’n cael eu defnyddio’n barhaus, a gall theatrau darlithio’r Brifysgol ddarparu adnoddau clyweled soffistigedig ar gyfer modiwlau sy’n ymwneud â pherfformio, gan gynnwys taflunio fideo a graffeg cyfrifiadurol.
Dulliau Dysgu
O’r flwyddyn gyntaf cyflwynir cyfres o ddulliau dysgu addas, o ddarlithiau ffurfiol i arddangosiadau technegol ac o weithdai ysgrifennu i waith prosiect a ddyfeisir gan grŵp. Mae’r amrywiaeth gweithgaredd hwn yn rhan hanfodol o athroniaeth yr Adran, ac mae’n creu amgylchedd dysgu sy’n unigryw o gyffrous a chynhyrchiol.
Nod cyffredinol ein cwrs yw integreiddio gwaith ymarferol a gwaith academaidd, fel y gall un dull o astudio ysgogi a chyfoethogi’r llall. Mae’r cyfuniad hwn yn rhoi digon o gyfle ichi ddatblygu dull deinamig o ymdrin â theatr a pherfformiad, a mynegi eich dealltwriaeth o’r cyfrwng yn gorfforol, yn ddeallusol ac ar sail profiad. Dysgir nifer o fodiwlau ar y cyd â gweithwyr proffesiynol gwadd o fyd y theatr, ac mae’r Adran yn elwa’n ogystal drwy gydweithio â chyfarwyddwyr a chynllunwyr proffesiynol sy’n gweithio ym mhrif theatr y Brifysgol, a thrwy gyfrwng ein cysylltiadau â’r Ganolfan Ymchwil i Berfformio yn Aberystwyth, sy’n dwyn ynghyd weithwyr yn y maes ac academyddion o statws rhyngwladol. Bydd ein myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i geisio am le ar gynllun y Brifysgol iastudio dramor neu i dreulio blwyddyn mewn gwaith.
Asesu
Mae bywyd myfyrwyr Drama yn brysur. Mae pob un o’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus o bwys yn ogystal ag mewn prosiectau llai, ac mae gofynion y gweithgareddau hyn, ynghyd â gofynion y gwaith academaidd, yn sylweddol. Fodd bynnag, bydd astudio yn yr Adran yn rhoi digon o brofiad ichi o gyfuno gwaith creadigol â gwaith academaidd beirniadol. Bydd myfyrwyr Astudiaethau Theatr yn cael eu hasesu drwy gyfrwng prosiectau grŵp, cyflwyniadau seminar a llyfrau nodiadau creadigol, yn ogystal â thrwy draethodau ffurfiol, arholiadau a chynyrchiadau.
Gyrfaoedd
Bellach mae gan dros 400 o’n cynfyfyrwyr gardiau Equity llawn ac maent yn gweithio yn y theatr, ar y teledu neu yn y ddau gyfrwng. Drwy ein system o ofal bugeiliol, yr ydym wedi ymrwymo i’ch hyfforddi i ddatblygu eich gyrfa mewn modd heriol a llawn gwybodaeth ac i’ch annog i fod yn ymwybodol o’r amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu cynnig i ddarpar gyflogwr. Mae’r Adran yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn meithrin llawer o sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol sy’n hanfodol yn y farchnad swyddi gyfnewidiol sydd ohoni heddiw. Mae llawer o’n myfyrwyr hefyd yn dilyn gyrfa ym meysydd dysgu, cysylltiadau cyhoeddus, adnoddau dynol, rheoli a gwaith yn y gymuned.
Graddau cyfuno Drama gyda phynciau eraill
Ann-Marie Clancy
BA Drama
Swydd Wexford, Iwerddon

Please turn on JavaScript.