Astudiaethau Ffilm a Theledu

W620 - 3 blynedd

No Javascript

warningPlease turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.

Mae’r rhaglen astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu yn fanwl ac yn heriol, ac mae’n cyfuno ffyrdd ymarferol a damcaniaethol o astudio cynyrchiadau, sefydliadau a chynulleidfaoedd ym myd Ffilm a Theledu. Mae gan yr Adran berthynas waith gynhyrchiol â’r BBC, S4C a grŵp Boomerang ac mae’n manteisio i’r eithaf ar y ffaith mai dim ond dafliad carreg i ffwrdd y mae cartref Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i astudio ffilm a theledu drwy ddatblygu eich sgiliau ymarferol ar bob cam o’r broses gynhyrchu, o lunio sgript i’r ffilmio ac yna’r golygu terfynol. Cyfunir hyn â meysydd astudio eraill a fydd yn  eich cyflwyno i archwilio strwythur ffurfiau ar gyfer y sgrin yn feirniadol a dealleu harwyddocâd yn y gymdeithas.

Asgwrn cefn eich ail a’ch trydedd flwyddyn fydd cyfuno datblygu eich sgiliau cynhyrchu ymhellach ag ymchwil feirniadol i hanes penodol a swyddogaeth arbennig pob cyfrwng. Ar ochr y cynhyrchu gallwch grynhoi arbenigedd mewn technegau cynhyrchu allweddol, megis ysgrifennu sgriptiau i’r radio, teledu a ffilm, ymchwilio ar gynhyrchiad, cynhyrchu rhaglenni dogfen neu ffuglen, a phrofiad o gynhyrchu mewn stiwdio. Yn eich blwyddyn olaf cewch yr her o gynhyrchu, cyfarwyddo neu olygu eich fideo byr eich hun a all fod yn arbrofol, yn ddogfennol neu’n ffuglen storïol. Bydd y cynyrchiadau gorau yn cael eu cyflwyno i gystadleuaeth Gwobrau Fideo Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Ochr yn ochr â’ch gwaith ymarferol, fe gynigir amrywiaeth o fodiwlau craidd a dewisol a fydd yn eich galluogi i arbenigo. Mae’r rhain yn cynnwys modiwlau megis Hollywood clasurol a chyfoes; drama radio a theledu; dogfennau teledu a ffilm; sut i ymchwilio cynulleidfaoedd y cyfryngau; y sinema a hunaniaethau  diwylliannol; a sinema amgen (gan ddibynnu pa fodiwlau sy’n cael eucynnig). Cewch gyfle hefyd i ddewis a datblygu eich testun ymchwil eich hun.

Adnoddau

Mae’r Adran yn darparu cyfarpar arbenigol a chyfleusterau ardderchog, gan gynnwys 36 o ystafelloedd golygu digidol a manylder uwch (HD), dros 40 o gamerâu digidol a manylder uwch sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant, mannau gwylio a mannau i waith ymarferol. Mae theatrau darlithio ar gampws Penglais wedi eu haddasu ar gyfer dangos ffilmiau a rhaglenni teledu. Ers mis Mehefin 2006 mae’r Adran yn academi AVID gydnabyddedig, ac mae’n rhan ogonsortiwm o adrannau prifysgol sy’n gwneud cais am achrediad Skillset.

Asesu

Mae’r dulliau asesu ar gyfer Astudiaethau Ffilm a Theledu yn cynnwys cynhyrchiad grŵp, prosiectau ffilm a fideo unigol, prosiectau ymchwil, dadansoddiadau ymarferol, dyddiaduron cynhyrchu ac ysgrifennu sgriptiau creadigol yn ogystal â thraethodau ac arholiadau ffurfiol. Mae’r dulliau dysgu ar gyfer y cynllun hwn yn dibynnu i raddau helaeth ar natur pob modiwl, ac maent yn amrywio o ddarlithoedd ffurfiol â dangosiadau a seminarau atodol i waith mewn grwpiau bychain ac archwiliadau ymarferol dan arolygaeth. Yn ychwanegol at hyn, ceir dulliau asesu atodol megis byrddau stori, sgriptiau ffilm, broliannau,  ymdriniaethau, ffilmiau ayyb, er mwyn creu portffolio gweithredol o ddeunyddy gall myfyrwyr ei gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Cysylltiadau Proffesiynol ac Ymweliadau

Bydd Astudiaethau Ffilm a Theledu yn rhoi ichi ymwybyddiaeth o amodau a dulliau gwaith yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am dechnegau proffesiynol a chyfleusterau technolegol. Mantais fawr i fyfyrwyr yn Aberystwyth yw eu bod yn gallu defnyddio Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru (sy’n rhan o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac o fewn pellter cerdded o’r prif gampws). Mae’r Adran hefyd yn denu siaradwyr gwadd o’r diwydiannau darlledu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, clywodd myfyrwyr brofiadau un o ysgrifenwyr sgriptiau Brookside, un o gyfarwyddwyr Father Ted, a chynhyrchydd gweithredol ym maes materion cyfoes. Ymhlith y staff sy’n gweithio yn yr Adran y mae cyn-gynhyrchydd rhaglenni dogfen yn y BBC, cyn-ohebydd a chynhyrchydd radio yn y BBC, a dramodydd radio a chyn-ysgrifennydd sgriptiauar Hollyoaks.

Gyrfaoedd

Mae gan y radd Astudiaethau Ffilm a Theledu hanes da o weld ei myfyrwyr yn llwyddo i gael eu derbyn i wahanol broffesiynau yn y cyfryngau. Ymhlith ein cyn-fyfyrwyr mae ymchwilwyr gyda theledu a radio’r BBC, dau o olygyddion comisiynu S4C, cynhyrchydd gyda Talkback Production ac amryw o rai eraill sy’n cynhyrchu i radio a theledu annibynnol. Cafodd graddedigion eraill waith gyda Chanolfan Deledu’r BBC, Gwasanaethau Allanol y BBC, BBC Cymru, ITV a chwmnïau teledu annibynnol llai yn ymchwilwyr, rheolwyr llawr, dynion a merched camera, technegwyr sain a chyfarwyddwyr; mae llawer wedi ennill lle ar gynlluniau yn y diwydiant i gael eu hyfforddi i fod yn weithwyr camera a golygyddion. Yr un mor berthnasol yw’r ffaith bod graddedigion eraill wedi defnyddio’r cwrs a’r sgiliau a ddysgwyd i fynd i sawl proffesiwn arall, gan gynnwys dysgu, ymchwil, marchnata, y diwydiannau cyfrifiadurol a  chysylltiadau cyhoeddus. Mae eraill wedi sefydlu mentrau entrepreneuraidd ac wedi datblygu cwmnïau sydd wedi deillio o’r Brifysgol.

a href="SiteManager?ctfn=hierarchy&fnno=10&sid=23976&lang=cy&sslinkid=1" title="Home > www.aber.ac.uk > Adref > Gwybodaeth i Israddedigion > Cyrsiau i Israddedigion > Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu > TFAT gyda phync araill">Graddau cyfuno Astudiaethau Ffilm a Theledu gyda phynciau eraill

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol