Astudiaethau Perfformio


3 blynedd

Theatr gorfforol, gwaith grŵp, perfformiadau dyfeisiedig, gwaith mewn lleoliad penodol, celf sy’n seiliedig ar amser: dyma rai agweddau ar waith creadigol y cwrs Astudiaethau Perfformio yn Aberystwyth.

Celfyddyd fyw, gweithredu mewn protest, perfformio arloesol, y defodol, dawns, adloniant poblogaidd, seremoni gyhoeddus: dyma rai o’r meysydd y byddwn yn eu hastudio.

Mewn stiwdio, ar y traeth, mewn capel, yn yr orsaf drenau, mewn car: dyma rai o’r mannau lle byddwn yn gweithio.

Cyrff, lleisiau, gwrthrychau, pensaernïaeth, cynulleidfaoedd: dyma rai o’r deunyddiau y byddwn yn gweithio gyda hwy.

Fideo, sain, golau, ffonau symudol: dyma rai o’r cyfryngau y byddwn yn eu harchwilio.

Gofod, amser, dramayddiaeth, coreograffi: dyma rai o’r egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio.

Nod y cwrs Astudiaethau Perfformio yn Aberystwyth yw llwyfannu a dadansoddi sawl ffurf ac arddull ar ddigwyddiadau byw. Drwy arfer theori a theori arfer byddwch yn hyfforddi o’r cychwyn cyntaf a’ch herio i feddwl am berfformio mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Byddwch yn perfformio mewn grŵp ac ar eich pen eich hun, yn rhoi darlithoedd ac yn cyflwyno eich syniadau deallusol drwy berfformio. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich arfer artistig eich hun, ar sail eich diddordebau personol; efallai fod gennych eisoes ddiddordeb mewn symud, dylunio, amlgyfryngau, theatr newydd ac arloesol neu arddulliau perfformio o bedwar ban byd. Pa arddull bynnag o berfformiad neu theatr y byddwch yn dymuno ei ddewis, fe gewch bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i wireddu eich syniadau a’ch dychmygion.

Ein cwrs ni yn Aberystwyth oedd un o’r cyntaf ym Mhrydain i ganolbwyntio ar fathau arloesol o berfformio, ac mae’r staff dysgu yn cynnwys nifer o artistiaid gweithredol yn ogystal â staff academaidd. Mae’r cwrs yn manteisio ar y ffaith fod yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil i Berfformio, sy’n berchen ar archif a llyfrgell berfformio ac sy’n trefnu gwyliau, cynadleddau, cyhoeddiadau ac ymweliadau gan ddarlithwyr a chyfarwyddwyr gwadd.

Mae gennym gysylltiadau agos â sawl cwmni blaenllaw sydd â’i bencadlys yn y DU a bydd ein myfyrwyr yn aml yn gweithio gydag ymarferwyr proffesiynol.

Cynllun yw Astudiaethau Perfformio a gellir ei astudio ar y cyd â phynciau cyffrous eraill megis Senograffeg a Dylunio Theatr, Astudiaethau Ffilm a Theledu, Drama neu ddisgyblaethau academaidd eraill.

Graddau sy’n cyfuno pwnc o Theatr, Ffilm a Theledu gyda phwnc arall