Senograffeg a Dylunio Theatr
BA - 3 blynedd

Please turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.
Cynllun gradd newydd yw hwn, sy’n cymryd golwg newydd radical ar ddylunio yng nghyd-destun creu theatr a pherfformiad. Trwy edrych y tu hwnt i ffiniau sefydledig cynllunio set, gwisgoedd, goleuo a sain (sydd ynddyn nhw eu hunain yn cael eu cydnabod a’u harchwilio) mae Senograffeg a Dylunio Theatr yn cymryd golwg ar y gofod perfformio yn ei grynswth, ac yn ystyried sut y trefnir y gofod hwn fel arfer artistig ynddo’i hun. Trwy gyfuniad o archwiliadau damcaniaethol ac ymarferol, mae Senograffeg a Dylunio Theatr yn edrych yn feirniadol ar bob math o arferion cyfoes, o theatr mewn adeilad penodol i berfformiadau lleoliad, o theatr amgylcheddol i berfformiad wedi’i fewnosod. Bydd y cynllun gradd yn canolbwyntio ar ddatblygu eich arferion dylunio chi eich hun o fewn neu ochr yn ochr ag arfer theatr a pherfformio.
Y mae Senograffeg a Dylunio Theatr yn gynllun ar hyn o bryd, ac oherwydd hynny mae’n hollol addas i’w gyfuno â’r cynllun Astudiaethau Perfformio , neu i’w gymryd mewn cyfuniadau cyffrous gyda Drama, Astudiaethau Ffilm a Theledu, a disgyblaethau eraill yng Nghyfadran y Celfyddydau. Disgwylir y bydd ar gael fel rhaglen anrhydedd sengl o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Mae’r cynllun yn defnyddio sawl math arloesol o ddulliau dysgu ac aseiniadau asesu, gan gynnwys darlithoedd/arddangosiadau aml-gyfrwng a chyflwyniadau sain/fideo/cyfrwng-cymysg gan fyfyrwyr. Ar ddiwedd y cwrs, byddwch wedi meithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy deallusol ac ymarferol, y gallwch eu cymhwyso i bob math o yrfaoedd yn y cyfryngau creadigol a thu hwnt. Byddwch hefyd yn mynd oddi yma â phortffolio personol o waith a grëwyd ar ffurf deunyddiau ac ar ffurf gwefan bersonol a gaiff ei chreu a’i datblygu yn ystod y cynllun. Bwriedir hefyd i’r profiad a ddaw yn sgil y radd gyfoethogi a datblygu eich ffordd unigol chi o edrych a’ch arferion creu.
Graddau sy’n cyfuno pwnc o Theatr, Ffilm a Theledu gyda phwnc arall
Victoria Campbell
BA Drama a Senograffeg
St Helen’s, Glannau Mersi