Rheoli Twristiaeth


N800 - 3 blynedd

Cynllun yw hwn a fydd yn apelio atoch os ydych yn chwilio am yrfa yn y diwydiant mwyaf yn y byd, sef twristiaeth. Mae’r cynllun yn cyfuno astudiaeth fanwl o’r diwydiant twristiaeth ym Mhrydain a thramor â datblygu sgiliau busnes hanfodol. Nodwedd arbennig ar y cynllun yw astudiaeth o dwristiaeth cefn gwlad mewn cyddestun rhyngwladol ehangach.

Mae’r cynllun yn cynnig:

  • cymhwyster rhyngwladol mewn rheoli twristiaeth
  • gwybodaeth fanwl am y diwydiant twristiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • sgiliau busnes hanfodol i’ch arfogi ar gyfer byd deinamig twristiaeth
  • sgiliau iaith, cyfathrebu, gwaith tîm a thechnoleg gwybodaeth er mwyn hybu rhagolygon gyrfa
  • aelodaeth i fyfyrwyr o’r Gymdeithas Dwristiaeth, sef y prif gorff proffesiynol sy’n cynrychioli buddiannau twristiaeth Prydain.

Cynnwys a Strwythur

Mae’r cynllun Rheoli Twristiaeth yn gyfuniad o fodiwlau twristiaeth a busnes, a cheir hefyd gyfres o fodiwlau dewisol sy’n eich galluogi i deilwra eich astudiaethau ar gyfer eich gofynion gyrfa penodol chi.

Mae astudiaethau’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys modiwlau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant twristiaeth rhyngwladol, hamdden a thwristiaeth ym Mhrydain, iaith fodern Ewropeaidd a chyflwyniad i reoli cyllid, egwyddorion marchnata ac egwyddorion economaidd.

Yn ail flwyddyn y cynllun gallwch ddewis o blith ystod o fodiwlau sy’n cynnwys datblygu twristiaeth ryngwladol, twristiaeth cefn gwlad, strategaeth marchnata, rheoli marchnata a sgiliau ymchwil. Ar ben hyn ceir dewis pellach o fodiwlau dewisol i ddewis o’u plith, gan gynnwys adnoddau dynol a thaith astudio dramor. Cewch gyfle hefyd i gael cyfnod byr o brofiad gwaith.

Mae’r flwyddyn olaf yn cynnwys modiwlau ar dwristiaeth gynaliadwy, rheoli marchnata twristiaeth, cynllunio strategol i dwristiaeth a hamdden, cyfathrebu ym maes marchnata, a thraethawd estynedig. Ceir hefyd nifer o fodiwlau dewisol i ddewis o’u plith, gan gynnwys strategaeth busnes a phynciau seminar.

Dysgu ac Addysgu

Gwneir hyn drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial ac ymweliadau astudio. Mae cyfle ichi fynd ar daith astudio yn y flwyddyn gyntaf a’r ail sy’n cynnwys astudiaeth ddwys o dwristiaeth mewn gwlad dramor. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid â phrifysgol dramor yn rhan o’ch astudiaethau.

Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfrwng gwaith cwrs ac arholiadau sydd, drwy gydol y cwrs, wedi eu cynllunio i fod yn berthnasol i anghenion y diwydiant twristiaeth. Mae’r asesu parhaus yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau, cwblhau arolygon, gwneud cyflwyniadau, trafod achosion penodol a chyfrannu i brosiectau ‘byw’ yn y diwydiant twristiaeth.

Gyrfaoedd

Bydd y cynllun yn eich paratoi drwy eich arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol am yrfa mewn sawl sector o’r diwydiant twristiaeth, yn cynnwys cwmnïau gwyliau ym Mhrydain a thramor, adrannau twristiaeth mewn awdurdodau lleol, byrddau twristiaeth, cwmnïau cludiant, cwmnïau ymgynghori, atyniadau twristiaeth ac asiantaethau datblygu twristiaeth.