Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddeleg


Cymraeg BA Q560 - 3 blynedd (iaith gyntaf ac ail iaith)
Cymraeg BA Q522 - 4 blynedd (i ddechreuwyr)
Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd Q562 - 3 blynedd
Astudiaethau Celtaidd Q500, Q501 - 4 blynedd
Gwyddeleg (Anrhydedd Cyfun)

Yr Adran fwyaf a’r hynaf o holl Adrannau Cymraeg Cymru yw Adran y Gymraeg, Aberystwyth. O’i sefydlu yn 1875 hyd heddiw, gwnaeth ei haelodau (yn staff a myfyrwyr) gyfraniad pwysig i fywyd a diwylliant Cymru, ym meysydd ysgolheictod, addysg, llenyddiaeth, darlledu, gwleidyddiaeth, ac eraill. Enillodd yr Adran enw rhagorol iddi ei hun ar sail cyhoeddiadau a gwaith ymchwil ei staff, a dyfarnwyd iddi radd ‘Rhagoriaeth’ (yr uchaf posibl) am ansawdd ei gwaith dysgu gan aseswyr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.