Astudiaethau Celtaidd
Q500, Q501 - 4 blynedd (i ddechreuwyr)
Ymhlith staff yr Adran ceir arbenigwyr ar yr holl ieithoedd Celtaidd, ac fe ddarperir gradd mewn Astudiaethau Celtaidd. Ceir cyflwyniad i hanes a diwylliant y Celtiaid yn Lefel 1, ond wedi hynny canolbwyntia’r cwrs gradd ar ieithoedd a llenyddiaethau’r Celtiaid o’r cyfnod cynnar hyd yn awr.
Cwrs pedair blynedd yw hwn, ac fel rheol treulir un neu ddau semester mewn prifysgol yn Iwerddon neu Lydaw o dan raglen SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd.
Erbyn iddynt raddio bydd gan fyfyrwyr sy’n dilyn ein cwrs Astudiaethau Celtaidd wybodaeth ymarferol ac academaidd o ieithoedd a llenyddiaethau’r Cymry a’r Gwyddyl o’u dechreuad hyd yn awr, a byddant wedi dilyn cyrsiau sy’n cymharu ieithoedd a llenyddiaethau’r ddwy genedl. Byddant hefyd wedi dilyn cyrsiau o blith y llu o gyrsiau dewisol sydd ar gael ar gyfer y rhai sy’n dilyn y cwrs gradd Cymraeg, ac efallai wedi astudio Gaeleg yr Alban a Llydaweg yn ogystal.